Mae Pawb yn Cyfrif yn cael ei gyhoeddi yn Saesneg
Mae mathemateg yn rhan naturiol o鈥檔 treftadaeth ddiwylliannol yw dadl yr awdur Gareth Ffowc Roberts, Athro Emeritws Addysg ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn ei lyfr newydd Count Us In, sy鈥檔 addasiad i鈥檙 Saesneg o鈥檌 lyfr blaenorol Mae Pawb yn Cyfrif.
Fel yr eglura鈥檙 Athro Roberts: 鈥淵mysg pobloedd y byd mae鈥檙 broses o gyfrif, fel y broses o gyfathrebu, yn gyffredin i bob cymdeithas. Ond, yn union fel y ceir amrywiaeth ieithoedd, mae amrywiaeth hefyd mewn dulliau cyfrif, a鈥檙 dulliau hyn wedi datblygu dros ganrifoedd i ateb dibenion cymdeithasau penodol.
鈥淓r enghraifft mae鈥檙 dull traddodiadol o gyfrif yn Gymraeg yn seiliedig ar gyfrif mewn ugeiniau, dull sy鈥檔 gyffredin i nifer o ieithoedd eraill ond sydd, mewn Cymraeg fodern, wedi cael ei ddisodli i raddau helaeth iawn gan y dull cyfrif mewn degau. Felly, yn Gymraeg ni chyfeirir at y rhif 37 bellach fel dau ar bymtheg ar hugain ond, yn symlach, fel tri deg saith. Mae plant bach sy鈥檔 dysgu cyfrif yn Gymraeg ar eu hennill mewn cymhariaeth 芒 phlant sy鈥檔 dysgu cyfrif yn Saesneg ac yn gorfod dod i ddeall mai ystyr twelve ydy one-ten-two. Ond mae sawl tro arall i鈥檙 stori gyfareddol hon!鈥
Fel llyfr poblogaidd ar fathemateg ac am y personoliaethau sydd wedi鈥檌 chreu, nid oes angen unrhyw gefndir arbennig i鈥檞 fwynhau rhagor na rhyw atgofion niwlog o fathemateg ysgol gynradd a chwilfrydedd i ddysgu mwy.
Cyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru ar 15 Chwefror a bydd yn cael ei lansio鈥檔 ffurfiol ar 22 Chwefror yn Oriel y Senedd, Bae Caerdydd. Noddir y digwyddiad gan Alun Ffred Jones AC.
Mae鈥檙 llyfr eisoes wedi cael ei ddisgrifio gan Alex Bellos, blogiwr The Guardian, fel: 鈥楢 delightful and fascinating read about the role of maths in Wales, and the role of Wales in maths. Anyone with an interest in Welsh culture, maths history or education will love this book.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2016