Mae planhigion blodeuog Antarctica yn cynhesu i newid yn yr hinsawdd
Mae rhifyn cyntaf cyfnodolyn newydd yn y gyfres bwysig Nature, sef, Nature Climate Change (rhifyn 1; Ebrill 2011 ) yn tanlinellu sut mae un rhywogaeth planhigion yn Antarctica fel pe bai鈥檔 manteisio ar newid yn yr hinsawdd.
Mae Dr Paul Hill, gwyddonydd ym Mhrifysgol 黑料不打烊 a phrif awdur y papur, yn egluro: 鈥淩ydym yn meddwl am yr Antarctic fel gwlad o eira a rhew. Ond ystod yr haf ar benrhyn Antarctica, a鈥檙 ynysoedd sydd o amgylch canol rhewedig y cyfandir, mae鈥檙 eira鈥檔 toddi, ac mae llawer o ardaloedd yn glasu, gyda mwsoglau a dwy rywogaeth o blanhigyn blodeuog brodorol. Yn ddiweddar, wrth i'r tymheredd godi trwy鈥檙 byd, ac wrth i hafau Antarctica fynd yn hirach ac yn gynhesach, mae un o'r planhigion blodeuog hyn, Brigwellt Antarctica (Deschampsia antarctica), wedi ymledu鈥檔 gynyddol.鈥
Mae鈥檔 bosib bod t卯m o wyddonwyr o鈥檙 Deyrnas Unedig ac Awstralia dan arweiniad yr Athro Davey Jones o Prifysgol 黑料不打烊 wedi darganfod cyfrinach llwyddiant y planhigyn hwn. Gwnaeth y t卯m waith ymchwil wedi ei ariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol ar y cyd 芒'r Arolwg Prydeinig o Antarctica yng Ngorsaf Ymchwil Signy yn Ynysoedd De Orkney. Ynys anghysbell yw Signy lle mae cofnodion dros y 50 mlynedd ddiwethaf wedi dangos heb amheuaeth bod yr hinsawdd yn cynhesu.
Eglura鈥檙 Athro Davey Jones: 鈥淢ae angen nitrogen ar blanhigion i dyfu. Ar arfordir Antarctica, mae鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 nitrogen wedi ei gloi mewn deunydd organig yn y pridd, sydd wedi bod yn araf i ddadfeilio yn yr amodau oer. Mae鈥檙 nitrogen bellach ar gael yn ehangach wrth i鈥檙 tymheredd godi鈥.
Darganfu t卯m yr Athro Jones bod Brigwellt Antarctica yn gallu defnyddio ei wreiddiau i fynd at y nitrogen hwn yn llawer mwy effeithlon nag y dangoswyd o'r blaen mewn planhigion. Oherwydd hyn, wrth i鈥檙 planhigion ymdrechu i gael gafael ar y maetholion sydd eu hangen i fanteisio ar olau haul haf cwta Antarctica, mae gan y brigwellt un fantais allweddol dros y mwsoglau wrth iddo gystadlu am adnoddau gyda nhw. Ond mae'r Athro Jones yn cyfaddef na fydd y gorsafoedd yn Antarctica angen prynu peiriant torri gwair am sbel eto!
Mae鈥檙 canfyddiadau hyn yn dangos bod rhai planhigion yn defnyddio nitrogen ar ffurf na chydnabuwyd o鈥檙 blaen ei bod yn bwysig. Felly gallai hyn gael effaith sylweddol ar reolaeth gynaliadwy systemau amaethyddol a naturiol mewn sawl rhan arall o鈥檙 byd. Dylai darganfod elfen newydd yng nghylch daearol nitrogen ein helpu i ddefnyddio gwrtaith yn fwy effeithlon ac i ddeall yn well oblygiadau llygredd nitrogen anthropogenig ac ymatebion ecosystemau i newid yn yr hinsawdd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2011