Magu plant mewn cymuned ddwyieithog
Mae oddeutu 70% o boblogaeth Gwynedd, cadarnle'r Gymraeg, yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg. Mae llawer o rieni a oedd yn siarad Cymraeg wrth dyfu i fyny, a hefyd llawer a oedd yn siarad Saesneg yn unig wrth dyfu i fyny, yn magu eu plant yn ddwyieithog. Hefyd mae鈥檙 rhan fwyaf o blant yn dechrau ar eu haddysg yng Ngwynedd drwy gyfrwng y Gymraeg.
A hoffech chi wybod mwy am fagu plant yn ddwyieithog? Beth yw鈥檙 manteision i blant? Pa effaith gallai gael ar eu haddysg? A oes gennych chi unrhyw bryderon yr hoffech eu trafod gyda rhieni eraill a chyda phobl broffesiynol?
Mae Prifysgol 黑料不打烊 yn cynnal 鈥淏ore Coffi Holi ac Ateb, Plant Dwyieithog鈥 ddydd Sadwrn, 10 Rhagfyr, rhwng 10:00 a 12:00 yn y Ganolfan Ymchwil ESRC i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd (41 Ffordd y Coleg). Diben y Bore Coffi yw dod 芒 phlant, athrawon, ymarferwyr ac aelodau o鈥檙 cyhoedd sydd 芒 diddordeb ynghyd mewn lleoliad anffurfiol i drafod materion sy鈥檔 gysylltiedig 芒 magu plant yn ddwyieithog.
Bydd cyfle i gyfarfod a thrafod gydag ymchwilwyr sydd ag ystod eang o arbenigedd ym maes dwyieithrwydd - sut mae plant yn dysgu siarad ac ysgrifennu mewn dwy iaith, sut mae鈥檔 hymennydd yn delio gyda dysgu mwy nag un iaith, a sut mae plant yn perfformio mewn lleoliad addysg dwyieithog yng nghyd-destun Cymru. Ar 么l cyflwyniad byr, bydd ein panel o arbenigwyr yn trafod unrhyw gwestiynau gan y gynulleidfa ac yn cyfnewid syniadau gyda chi yngl欧n ag unrhyw broblemau y gallech fod yn eu hwynebu wrth fagu plant yn ddwyieithog.
Noddir y digwyddiad gan Ganolfan Ymchwil ESRC i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd y Brifysgol.
Meddai Margaret Deuchar, Cyfarwyddwr y Ganolfan ym Mhrifysgol 黑料不打烊:
鈥淩ydym yn byw mewn cymuned ddwyieithog ffyniannus, felly mae llawer iawn o ddiddordeb yn y pwnc. Rydym eisiau cynyddu dealltwriaeth pobl am ddwyieithrwydd. Mae鈥檙 bore coffi yn weithgaredd lle gallwn gyfarfod 芒 phobl sydd 芒 diddordeb i drafod y pwnc gyda hwy, clywed eu cwestiynau a鈥檜 barn, ac egluro canfyddiadau ein hymchwil iddynt.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2011