Marchnad Nadolig Myfyrwyr lwyddiannus arall
Cynhaliodd y t卯m Byddwch Fentrus ym Mhrifysgol 黑料不打烊 y 9fed Farchnad Nadolig Myfyrwyr yn ddiweddar.
Unwaith eto mae Marchnad Nadolig Myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊 wedi denu cefnogaeth aruthrol gan gwsmeriaid ar draws y Brifysgol a'r tu hwnt. Roedd cyfanswm o 10 o staff a 180 o fyfyrwyr gyda 110 o stondinau rhyngddynt yn cynnig amrywiaeth eang o gynhyrchion wedi'u gwneud 芒 llaw, fel gemwaith, celf a chrefft, cardiau ac addurniadau, nwyddau wedi'u gwau a'u crosio, sebonau wedi eu gwneud 芒 llaw, cacenni, bwydydd rhyngwladol, gwaith celf a ffotograffiaeth. Eleni, roedd llawer o鈥檙 cynnyrch gyda thema ecogyfeillgar, gyda stondinwyr yn ailddefnyddio ac ail-gylchu eitemau a allai fel arall fod wedi eu hanfon i safle tirlenwi. Galwodd dros 2,000 o ymhelwyr heibio yn ystod y prynhawn a chael cyfle i brynu anrhegion unigryw gyda rhan o'r elw yn mynd i elusen.
Bu llawer o Glybiau a Chymdeithasau yr Undeb Myfyrwyr hefyd yn cynnal stondinau er mwyn codi arian at gyllideb eu cymdeithasau, gan gynnwys RAG, y Gymdeithas Cerdded C诺n, Cymdeithas Myfyrwyr Coedwigaeth 黑料不打烊 a 黑料不打烊 Marrow.
Bydd myfyrwyr 芒 stondin yn derbyn cydnabyddiaeth ar eu trawsgrifiad academaidd sy鈥檔 cynnwys llwyddiannau allgyrsiol am gynnal stondin ac am gymryd rhan yn y gweithdai paratoi a gynhaliwyd yn ystod yr wythnosau'n arwain at y digwyddiad.
Cafwyd cerddoriaeth fyw, gan Fand Cyngerdd y Brifysgol a Chymdeithas Ddrama Operatig Myfyrwyr, a hynny鈥檔 ychwanegu at y naws lawen.
Dominic Newell a Rachel Tresidder Aeth y Wobr am y Stondin Orau i鈥檙 myfyrwyr 么l-radd Rachel Tresidder a Dominic Newell. Cyflwynwyd y wobr gan Helen Hodgkinson, arbenigwraig manwerthu o Indi Business Training. Mae Rachel yn astudio Bioleg y M么r a S诺oleg ac mae Dominic yn astudio Peirianneg Electronig.
Sefydlodd Dominic OriMagic yn 2014. Mae wedi bod yn gwneud origami ers yr oedd yn 9 mlwydd oed, ac wedi dechrau gwneud modelau 3D modiwlaidd pan oedd yn 12 oed. Cyfarfu Dominic 芒 Rachel ym Marchnad Nadolig Myfyrwyr 2016, ac maent yn priodi yn 2020!
Meddai Dominic: "Mae marchnadoedd Nadolig y Brifysgol wedi rhoi'r cyfle i ni gyrraedd cynulleidfa na fyddem ni erioed wedi breuddwydio am eu cyrraedd. Rydym wedi cael pobl yn dychwelyd i'n stondin bob blwyddyn gan eu bod yn caru ein modelau, ac mae rhai modelau wedi cael eu hanfon ar draws y DU, Sbaen ac America! Yn y dyfodol rydym yn gobeithio lansio gwefan a dechrau gwerthu鈥檙 modelau ar-lein."
Dywedodd Rachel: "Roedd cwrdd 芒 Dominic yn y farchnad gyntaf i mi fynychu fel stori allan o'r llyfrau tylwyth teg yr oeddwn yn ei ddarllen fel plentyn. Rwyf wedi bod wrth fy modd yn dysgu sut i wneud y modelau origami ac erbyn hyn rwy'n falch o allu creu modelau ar gyfer OriMagic gyda Dominic. Rwyf wedi bod mor hapus i ddychwelyd i'r farchnad Nadolig bob blwyddyn ac ni allaf gredu mai hon oedd ein blwyddyn olaf! Er gwaethaf hyn, ni fyddwn yn rhoi'r gorau i gynllunio modelau newydd a mwynhau'r gweld wynebau pobl wrth iddynt weld yr hyn yr ydym wedi'i wneud."
Patty DiazDewiswyd enillydd y Cynnyrch Mwyaf Arloesol gan Cerri Williams o Lywodraeth Cymru. Yr enillydd oedd Patty Diaz, myfyrwraig 么l-radd mewn Cyfraith Busnes Masnachol a Rhyngwladol sy'n gwerthu tai adar a ddyluniwyd ganddi hi a'i dyweddi ym M么n. Maent wedi'u gwneud allan o gynhyrchion wedi'u hadfer. Y nod yw darparu cynefinoedd bywyd gwyllt wedi'u gwneud o goed wedi'u hachub a phren wedi'i ailgylchu.
Dywedodd Patty: "Rydym yn gweithio gyda'r ethos y bydd ein holl gynnyrch yn cynorthwyo'r amgylchedd a bywyd gwyllt. Mae'r holl dai adar yn cael eu gwneud o eitemau a fwriadwyd ar gyfer tirlenwi. Mae ennill y wobr hon yn galonogol iawn i ni ac yr ydym mor hapus! Rydym yn ddiolchgar am y cyfle i ddangos ein cynnyrch ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Mae dechrau busnes yn ymrwymiad mawr ac rydym wedi bod yn ystyried hyn ers peth amser. Byddwn yn lansio鈥檙 busnes ym mis Ionawr."
Ar hyn o bryd mae'r Farchnad wedi ei chyllido'n rhannol gan Raglen Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru.
Hoffai t卯m Byddwch Fentrus ddiolch i bawb a fu鈥檔 cynorthwyo yn ystod y dydd, yn cynnwys y cynorthwywyr o blith y myfyrwyr, y Gwasanaethau Eiddo a Champws am weithio y tu 么l i鈥檙 llenni yn helpu i osod y stondinau, y Gwasanaethau Masnachol am helpu gyda'r lluniaeth, Llywodraeth Cymru a Phrifysgolion Santander am noddi'r stondin orau, T卯m Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru am noddi'r digwyddiad, ac yn fwyaf oll i'r stondinwyr o blith y myfyrwyr a'r staff am eu brwdfrydedd ac am roi cymaint o ymdrech tuag at greu eu cynnyrch ac am fod yn fentrus!
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2019