Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd
Llongyfarchiadau mawr i Ffion Haf Williams, cyn-fyfyrwraig Ysgol y Gymraeg, ar ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
am ddrama a gyfansoddodd yn ystod ei thrydedd flwyddyn ym Mangor fel rhan o鈥檙 modiwl Sgriptio.
Mae Ffion yn hanu o Sir Benfro ac yn astudio gradd meistr mewn Astudiaethau Celtaidd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, gan ganolbwyntio ar chwedloniaeth Gymraeg. Y dasg oedd ysgrifennu drama lwyfan un act a chymer rhwng 40 - 60 munud i鈥檞 pherfformio a daeth 13 o geisiadau i law.
Dywedodd y beirniaid, Dafydd James ac Elin Bowman:
鈥淒yma ddrama fwyaf cyflawn y gystadleuaeth. Mae Ffion yn deall beth yw hi i blethu naratif, cymeriadu, deialog, cerddoriaeth a ffurf i greu cyfanwaith sy鈥檔 argyhoeddi鈥檔 llwyr y medrid ei pherfformio ar lwyfan heddiw. Mae鈥檔 gwybod beth yw hi i ddatgelu gwybodaeth ddramatig mewn modd cynnil ac roeddem wedi ein cyfareddu鈥檔 llwyr gan amwysedd y berthynas ganolog. Braf hefyd oedd clywed
tafodiaith y Gorllewin ac mae鈥檙 defnydd o鈥檙 gerddoriaeth a鈥檙 piano yn gelfydd.鈥
Llongyfarchiadau gwresog hefyd i Gareth Evans-Jones, myfyriwr ymchwil yn Ysgol y Gymraeg, ar ddod yn drydydd yn yr un gystadleuaeth.
Mae gan fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg record arbennig o dda yn y gystadleuaeth hon. Enillwyd hi yn 2012 gan Llyr Titus Hughes, yn 2011 gan Elin Gwyn ac yn 2010 a 2007 gan Manon Wyn Williams sydd bellach yn Ddarlithydd Sgriptio a Drama gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2015