Medalau Hanesyddol yn mynd i ocsiwn
Medalau a ddyfarnwyd i Harold King.Bydd medalau a fu鈥檔 perthyn i wyddonydd o Fangor yn mynd i ocsiwn yr wythnos yma (Iau 21 Gorffennaf).
Y medalau a ddyfarnwyd i Dr Harold King yw Lot 167 a 168 yng ngwerthiant 鈥極rders, Decorations, Campaign Medals and Militaria鈥 Spink.
Graddiodd Dr Harold King mewn cemeg ym Mhrifysgol 黑料不打烊 (Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ar y pryd) ym 1909.
Gwaith Dr King ar curare, gwenwyn o Dde America a鈥檌 sefydlodd fel cemegydd o fri. Defnyddiwyd curare ers canrifoedd fel gwenwyn parlysu gan nifer fawr o鈥檙 brodorion yn Ne America. Er yn adnabyddus, nid oedd mecanwaith y gwenwyn yn hysbys yn nechrau鈥檙r 20fed ganrif.
Bu i Dr King ganfod y tocsin o fewn y gwenwyn yn 1935 ac aeth ymlaen i gadarnhau ei strwythur. Roedd ei ganfyddiad yn gymorth yn gychwynnol i waith llawfeddygol , ond arweiniodd yn y man at ddatblygiad y cyffuriau cyntaf i fod ar gael yn eang at ddefnydd pwysedd gwaed uchel (hypertension).
Roedd Dr Harold King yn gyn-ddisgybl o Ysgol Friars, 黑料不打烊. Fe enillodd sawl ysgoloriaeth i astudio yn y Brifysgol, lle bu鈥檔 astudio dan ofal yr Athro Kennedy Orton.
Yn fab i ysgolfeistr, wedi iddo raddio ac ennill gradd uwch, aeth Harold King i weithio yn Labordai Wellcome y Cyngor Ymchwil Meddygol, ac yna gyda鈥檙 Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Meddygol nes ei ymddeoliad yn 1950. Fe鈥檌 hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1933.
Yn yr arwerthiant mae ei CBE ynghyd 芒鈥檌 Hanbury Gold Medal (1941), a鈥檌 Addingham Gold Medal. Dyfarnwyd medal Hanbury 鈥溾or high excellence in the prosecution or promotion of original research in the natural history and chemistry of drugs鈥 ac mae鈥檔 adlewyrchu pwysigrwydd cyraeddiadau Dr King.
Meddai Dr Mike Beckett, Pennaeth Ysgol Cemeg, Prifysgol 黑料不打烊:
鈥淲rth i ni ddathlu cenhedlaeth arall o fyfyrwyr cemeg yn graddio o Fangor, mae鈥檔 gyfle i鈥檔 hatgoffa bod Ysgol Gemeg 黑料不打烊, er yn fach o ran maint, wedi gwneud cyfraniad sylweddol i鈥檙 maes. Byddai King wedi ei addysgu gan yr Athro Kennedy Orton, gwyddonydd hynod a daeth hefyd yn FRS yn 1921, fel y gwnaeth pum Athro Cemeg cynta鈥檙 Brifysgol. Dyrchafwyd pump o gyn fyfyrwyr Orton yn Athrawon mewn Cemeg - record a fyddai鈥檔 llwyddiant ysgubol heddiw!
Amcangyfrifir gan Spink & Son y bydd y medalau鈥檔 hawlio 拢1,600-2,300.
Yn 么l yr arwerthwr Marcus Budgen 鈥淢ae llwyddiannau Dr King a phwysigrwydd gwyddonol ei ganfyddiadau yn gwneud y rhain yn bethau prin. Rydym yn disgwyl llawer o ddiddordeb yn y medalau.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2016