Merch o L欧n yn graddio
Fe wnaeth profiad gwaith arwain at swydd i fyfyrwraig sy鈥檔 graddio ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yr wythnos hon.
Cari Roberts
Bydd cyn-ddisgybl o Ysgol Botwnnog, Cari Ann Roberts, 21, o Roshirwaun, Pwllheli yn graddio gyda BA mewn Cyfathrebu a Newyddiaduraeth ar 么l 鈥渢air blynedd anhygoel鈥 ym Mangor.
Meddai Cari: 鈥淎r 么l gorffen yn yr ysgol, fe astudiais BTEC mewn Cynhyrchu ar gyfer y Cyfryngau yng Ngholeg Menai. Penderfynais ddod i Fangor oherwydd bod y cwrs yn edrych yn ddifyr, a bod cyfle i astudio drwy鈥檙 Gymraeg. Hefyd, oherwydd ei bod yn weddol agos i nghartref, roedd modd i mi deithio i鈥檙 Brifysgol yn ddyddiol. Er fy mod yn byw gartref, fe wnes fwynhau bywyd myfyriwr hefyd drwy gymdeithasu gyda fy ffrindiau ar nosweithiau myfyrwyr bob nos Fercher.
鈥淵n ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol roeddwn yn gweithio mewn caffi yn Llanbedrog ar benwythnosau. Roedd yn gr锚t cael arian ychwanegol i fyw arno!
鈥淵n ystod y cwrs cefais fynd ar brofiad gwaith gyda鈥檙 papur wythnosol Caernarfon and Denbigh Herald yng Nghaernarfon, a hefyd cefais brofiad gwaith cyflogedig gyda Th卯m y We yn Adran Farchnata Prifysgol 黑料不打烊. Roedd y ddau brofiad gwaith yn gyfle gwerthfawr i mi.
鈥淯chafbwynt fy amser ym Mangor oedd cynhyrchu rhaglen ddogfen 20 munud ar Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, ar gyfer fy nhraethawd hir yn y drydedd flwyddyn. Mi wnes fwynhau cynhyrchu a golygu鈥檙 rhaglen ddogfen honno.
鈥淵n ddiweddar cefais swydd gyda Th卯m y We ym Mhrifysgol 黑料不打烊, ac rwy鈥檔 ei mwynhau鈥檔 arw. Teitl fy swydd yw Swyddog Cynorthwyol Marchnata鈥檙 We.鈥
Gwyliwch fideo Cari ar
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013