Mwynhau llwyddiant yn yr Eisteddfod Ryng-golegol
Y Parti Sioe Gerdd buddugol yn cystadluWedi cystadlu brwd a hynod lwyddiannus, daeth cystadleuwyr selog ymysg myfyrwyr Cymraeg Prifysgol 黑料不打烊 yn ail yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn ddiweddar. Y t卯m cartref, sef Prifysgol Caerdydd, a enillodd, o ychydig.
Aeth 100 o fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol i Gaerdydd i gystadlu yn yr Eisteddfod dros benwythnos 18-20 Chwefror a phrofodd nifer ohonynt lwyddiant yn eu cystadlaethau
Enillodd T卯m 黑料不打烊 y twrnamaint P锚l Droed yng Ngala Chwaraeon ar y dydd Gwener. Daeth nifer o grwpiau ac unigolion yn gyntaf mewn sawl cystadleuaeth lwyfan.
Lois Eifion yn cystadluRoedd yn Eisteddfod lwyddiannus tu hwnt i Lois Eifion, sy鈥檔 dod o Benisa鈥檙 Waun ac yn astudio Cerddoriaeth yn ei thrydedd flwyddyn. Enillodd Lois y Rhuban Glas offerynnol a鈥檙 Rhuban Glas lleisiol. Enillodd y Rhuban Glas offerynnol am ei pherfformiad wrth ennill yr unawd offerynnol, a hi hefyd ddaeth yn gyntaf yn yr Unawd Sioe Gerdd ac yn gyntaf yn yr unawd merched, gan ennill y Rhuban Glas lleisiol oedd yn mynd i rywun o blith unawdwyr y merched neu鈥檙 bechgyn.
Enillodd Lois a Daniel Sajko yr ensemble offerynnol am wneud deuawd piano, a daeth Daniel Sajko yn gyntaf yn yr unawd Cerdd Dant ac yn 3ydd yn yr unawd bechgyn. (Diolch iddynt hefyd am eu gwaith diwyd wrth arwain a chyfeilio i aelwyd John Morris Jones, fydd yn canu yn y cyngerdd G诺yl Ddewi yn Wythnos y Ddraig).
Ar ben hynny, yn y Cystadlaethau Gwaith Cartref, enillodd Lois Eifion Dlws y Cerddor, a Dewi Meirion (o Llanrug sy鈥檔 astudio Newyddiaduraeth a Chyfathrebu) a enillodd y Fedal Ddrama.
Parti'r Bechgyn yn cystadluRoedd yr ensemble lleisiol a鈥檙 C么r Sioe Gerdd hefyd yn fuddugol. Daeth 黑料不打烊 yn ail yn y cystadlaethau clocsio unigol (Lawrence Huxham, o Wlad Belg, sy鈥檔 astudio Cerdd a Chymraeg, ac wedi dysgu Cymraeg) y gr诺p dawnsio gwerin a鈥檙 ddeuawd gydag Iwan a Catrin yn canu (Iwan Williams a Catrin Roberts a gyrhaeddodd y llwyfan yn yr 糯yl Gerdd Dant hefyd).
鈥淩oedd yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni yn un hynod o lwyddiannus i fyfyrwyr 黑料不打烊. Cafwyd llwyddiannau lu ar y llwyfan a gwelwyd llwyddiant hefyd yn y gwaith cartref ac ar y caeau chwarae. Ond yn bwysicaf oll, cafodd tri llond bws o fyfyrwyr 黑料不打烊 benwythnos i鈥檞 gofio wrth fwynhau cymdeithasu a chystadlu gyda myfyrwyr Cymraeg prifysgolion eraill Cymru,鈥 meddai Mair Rowlands, Llywydd UMCB.
鈥満诹喜淮蜢 hefyd fydd yn croesawu鈥檙 Eisteddfod y flwyddyn nesaf. Bydd y gwaith paratoi yn cychwyn yn fuan iawn. Gobeithio y byddwn yn ail-fyw鈥檙 un llwyddiant a welwyd yn yr Eisteddfod Ryng-golegol ddiwethaf ym Mangor yn 2007, lle cyrhaeddodd 黑料不打烊 y brig,鈥 ychwanegodd hi.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2011