Myfyriwr Aeddfed yn goresgyn salwch i ennill gradd dosbarth 1af
Mae cyn saer coed o Rhyl wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf yn dilyn newid sydyn yn ei yrfa yn dilyn afiechyd galwedigaethol.
Colin gyda'i wraig ar ei ddiwrnod graddioMae鈥檙 myfyriwr aeddfed Colin Kott, 46, nid yn unig wedi goroesi'r sioc o newid gyrfa a dychwelyd i addysg uwch ar 么l datblygu afiechyd yr ysgyfaint ond hefyd wedi gorfod delio gyda鈥檙 ffaith ei fod wedi dysgu ei fod yn ddyslecsig yn ystod ei amser yn astudio ym Mangor.
Dywedodd Colin: 鈥淒wi ddim yn meddwl fod y ffaith fy mod wedi cael gradd dosbarth cyntaf wedi fy nharo yn llawn yet. Roedd fy niwrnod graddio, fel fy niwrnod priodas, yn ddiwrnod bythgofiadwy i mi a fy nheulu. Pan ddos i yn 么l i addysg lawn amser, nes i erioed feddwl y byswn yn cyflawni gymaint.
鈥淢i ddos i yn 么l i addysg trwy raglen 鈥淎il Gyfle鈥 lle y gwnes i ddysgu mathemateg a llythrennedd sylfaenol yn Llyfrgell Rhyl. Yna, mi wnes i gwblhau cwrs Mynediad I Addysg Uwch ac ennill gwobr 鈥淒ysgwr y Flwyddyn鈥 cyn cael fy nerbyn i astudio gradd Cymdeithaseg yma ym Mangor.
鈥淩oedd dychwelyd i addysg uwch fel myfyriwr aeddfed yn brofiad unigryw iawn - yn llawn uchafbwyntiau ond hefyd isel bwyntiau. Yr uchafbwyntiau oedd yr holl bethau a ddysgais yma a鈥檙 ffrindiau y gwnes i ar hyd y ffordd. Yr isel bwyntiau oedd y pethau mae bywyd yn gallu taflu atoch sydd allan o鈥檆h rheolaeth.
鈥淵n anffodus, yn ystod fy ail flwyddyn fe gafodd fy ngwraig str么c felly yn naturiol, roedd gofalu amdani yn cymryd blaenoriaeth dros astudio. Ond er hynny, mi wnes i lwyddo i aros yn y Brifysgol ac mi lwyddodd fy ngwraig i wella yn llwyr.
鈥淓r yr holl ergydion yma mi lwyddais i radio ac mae hyn yn dangos faint o benderfyniaeth oedd gen I I lwyddo ac mae hefyd yn profi faint o gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr gan staff y Brifysgol. Mae ganddynt wasanaeth anabledd gwych ac mae yna staff gwych sydd yn rhoi cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr dyslecsig.
鈥淯chafbwynt y cwrs hyd yn hyn i mi oedd cael cyhoeddi un o fy mhapurau yn Siwrnal y Myfyrwyr ac yn y dyfodol rydw i yn gobeithio cael cyfle i weithio fel tiwtor o fewn y rhaglen 鈥淎il Gyfle鈥 I mi gael helpu eraill i ddychwelyd i addysg.
鈥淩ydw i yn gobeithio fod fy stori i o lwyddiant a ddaeth o sefyllfa a oedd i weld yn anobeithiol yn ysbrydoliaeth i eraill a fydd yn gweld ei hunain mewn sefyllfa debyg.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2011