Myfyriwr o Brifysgol 黑料不打烊 yn dychwelyd o raglen hyfforddi p锚l-droed yn Ne Affrica
James (dde) yn Ne AffricaMae myfyriwr o Brifysgol 黑料不打烊 wedi dychwelyd o raglen hyfforddi p锚l-droed yn Ne Affrica yn sylweddoli ei fod 'yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl'.
Ar hyn o bryd, mae James Hodgetts, 19, o swydd Gaer, cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Congleton a chyn-fyfyriwr o Goleg Reaseheath ar ei ail flwyddyn ar gwrs gradd mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer. Cafodd James ei ddewis gan , i gymryd rhan yn y cynllun yn Cape Town i helpu plant difreintiedig i ddatblygu eu sgiliau p锚l-droed.
Dywedodd James mai'r daith 10 diwrnod "yw'r peth gorau dwi wedi'i wneud yn fy mywyd!"
Ychwanegodd: "Rwyf hefyd yn hynod o falch o'r gwaith codi arian, mi wnes i godi 拢1,500 i ganiat谩u i mi deithio i Dde Affrica i hyfforddi chwaraeon yn yr ysgolion treftadol. Roedd yr amserlen yn fyr, cefais fy nerbyn ar y daith ym mis Mai 2015 ac mi wnes i lwyddo i godi'r arian erbyn Medi 2015 gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys tombola a rafflau.
"Yn ystod y daith b没m yn hyfforddi plant difreintiedig lle cefais brofiad gwerthfawr a rhagolygon newydd ar fywyd. Roeddwn yn gweithio gyda gwahanol aelodau o'r gr诺p mewn gwahanol ysgolion, mewn amodau heriol bob dydd yn cyflwyno sesiynau chwaraeon.
"Mae'r profiad wedi gwella fy hyder yn aruthrol, roeddwn yn addysgu plant o wahanol oedrannau a gallu, wrth ymdopi 芒'r rhwystr iaith. Roedd heriau cyson drwy gydol y daith a bu'n rhaid addasu ein sesiynau i fodloni'r gofynion munud olaf. Roeddwn yn falch iawn pan wnaeth y cydlynydd teithiau ganmol fy rheolaeth a'm ffocws."
Dywedodd Matthew Houghton, Cyfarwyddwr Chwaraeon, The HQ Coaching Centre: "Roedd ymrwymiad James i gynllunio sesiwn yn dda iawn ac roedd ganddo sgiliau trefnu rhagorol. Roeddwn hefyd yn falch iawn o weld ei hyder a'i sgiliau cyfathrebu yn datblygu yn ystod y trip. Holl gysyniad y rhaglen yw helpu myfyrwyr i fynd ymlaen i addysg bellach ac uwch ac mae'r sgiliau trosglwyddadwy a geir ar ein rhaglenni yn hynod o ddefnyddiol ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol, er enghraifft datblygu chwaraeon ac addysgu."
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2018