Myfyriwr o Brifysgol 黑料不打烊 yn ennill gwobr genedlaethol
Matt DayMae myfyriwr o Brifysgol 黑料不打烊 wedi ennill gwobr genedlaethol.
Mae Matt Day, 23, o Southampton wedi ennill bwrsariaeth wedi鈥檌 noddi am gyfraniad eithriadol yng Ngwobrau Cenedlaethol Cymdeithasau Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM), y digwyddiad cenedlaethol cyntaf i roi cydnabyddiaeth i gymdeithasau undebau myfyrwyr am eu cyfraniad i ragolygon gyrfa a phrofiad myfyrwyr dros eu cyfnod yn y brifysgol.
Mae Matt newydd ei ethol yn Is-lywydd Cymdeithasau a鈥檙 Gymuned Undeb Myfyrwyr 黑料不打烊 ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016-2017.
Ar hyn o bryd, mae Matt ar gwrs TAR Gwyddoniaeth Uwchradd yn yr Ysgol Addysg ac fe raddiodd gyda gradd MEng mewn Peirianneg Electronig yn 2015. Mae wedi gweithio gyda鈥檙 Gymdeithas Criw Llwyfan (a elwir bellach yn Titan Sounds and Light) ac wedi ehangu a datblygu鈥檙 gymdeithas i鈥檙 fath raddau ei bod bellach yn cefnogi鈥檙 rhan fwyaf o ddigwyddiadau a drefnir gan fyfyrwyr a鈥檙 Brifysgol.
Dywedodd Matt: 'Rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill y wobr hon ac mae'n braf iawn cael cydnabyddiaeth ar lefel genedlaethol, rwy鈥檔 ddiolchgar iawn i鈥檙 enwebwyr a da iawn i鈥檙 cystadleuwyr brwd yr oeddwn yn cystadlu yn eu herbyn. Roedd y noson yn brofiad gwych o ran dysgu am yr hyn mae cymdeithasau mewn prifysgolion eraill yn ei wneud ac roedd yn gyfle da i gael syniadau newydd gyda鈥檙 gobaith o鈥檜 cyflwyno ym Mangor pan fyddaf yn dechrau ar fy ngwaith gyda鈥檙 Undeb."
Dywedodd Beth Button, Llywydd UCM Cymru: "Roedd cryfder ac ansawdd yr enwebiadau yn dyst i鈥檙 gwaith caled a wneir gan yr undebau myfyrwyr ac mae amrywiaeth yr undebau a enwebwyd ac a enillodd yn dangos cryfder y mudiad myfyrwyr yng Nghymru eleni a鈥檙 gwaith gwerthfawr sy鈥檔 cael ei gyflawni."
Mae Matt a鈥檙 Gymdeithas wedi ennill gwobr ariannol yn ogystal 芒鈥檙 profiad amhrisiadwy o fynd i鈥檙 seremoni wobrwyo ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ar 4 Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2016