Myfyriwr o Harvard ar ymweliad ag Ysgol y Gymraeg
Mae Liam Anton Brannelly yn treulio鈥檙 semester cyfredol yn astudio ym Mangor fel rhan o鈥檙 cynllun cyfnewid PhD rhwng Adran Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Harvard ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol 黑料不打烊.
Derbyniodd Anton BA ac MA mewn Saesneg o Goleg Hunter (Prifysgol Dinas Efrog Newydd) lle y datblygodd ddiddordeb yn ieithoedd a llenyddiaethau canoloesol Prydain ac Iwerddon. Yng Ngholeg Hunter, roedd y rhan fwyaf o鈥檌 ymchwil ar lefel 么l-radd yn ymwneud 芒鈥檙 syniad o amlieithrwydd Prydeinig a鈥檙 rhyngberthynas rhwng Saesneg, Lladin a Chymraeg yn neilltuol, yn y cyfnod canoloesol hwyr a鈥檙 cyfnod modern cynnar. Roedd ei ymchwil ddiweddarach (a arweiniodd at ei thesis MA) yn canolbwyntio bron yn llwyr ar farddoniaeth ganoloesol Gymraeg a gwaith Dafydd ap Gwilym yn fwyaf arbennig.
Ymhlith ei ddiddordebau cyfredol y mae archwilio agweddau canoloesol Gwyddelig a Chymreig tuag at rywedd a rhywioldeb, y modd y portreeadir harddwch gwrywaidd yn y traddodiad barddol, a鈥檙 modd y gellir cymhwyso theor茂au 么l-fodernaidd o ddiwedd yr ugeinfed ganrif at lenyddiaeth Geltaidd o鈥檙 Oesoedd Canol.
Y mae ar hyn o bryd yn gweithio gyda鈥檙 Athro Jason Walford Davies, Dr Aled Llion Jones a鈥檙 Athro Peredur Lynch yn ogystal 芒 dilyn dosbarthiadau i gryfhau ei afael ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2017