Myfyriwr PhD yn ennill y prif wobr yng Nghynhadledd 鈥楲egal Wales鈥
Mae myfyriwr o Brifysgol 黑料不打烊 wedi curo myfyrwyr y Gyfraith ledled Cymru i ennill prif wobr yng Nghynhadledd 鈥楲egal Wales 2012鈥.
Dyfynnir y brif wobr i Huw Pritchard, sydd yn flwyddyn olaf ei astudiaethau PhD yn Ysgol y Gyfraith, ar y cyd 芒 myfyriwr o Brifysgol Caerdydd. Gofynnir i ymgeiswyr ysgrifennu traethawd yn ymateb y cwestiwn canlynol: 鈥楪yda Chynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn arfer grymoedd deddfu primaidd, onid yw datblygiad awdurdodaeth ar wah芒n i Gymru yn anorfod?鈥.Enillodd Huw Pritchard, myfyriwr PhD, y brif wobr ar y cyd gyda myfyriwr o Brifysgol Caerdydd yng ngornest traethawd Cynhadledd 鈥楲egal Wales鈥.
鈥淵n dilyn refferendwm y Cynulliad ym Mawrth 2011 mae gan y Cynulliad rymoedd deddfu sylfaenol. Yn sgil hynny mae trafodaeth wedi bod yngl欧n 芒 datblygu awdurdodaeth i Gymru sydd ar wah芒n i awdurdodaeth unedig Cymru a Lloegr sy鈥檔 bodoli ar hyn o bryd鈥, eglura Huw, 26, wrth drafod ei ymateb personol i鈥檙 cwestiwn. 鈥淣i chafwyd unrhyw newid i鈥檙 awdurdodaeth drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 na drwy statud arall. Er hynny, mae datblygiadau gweinyddol yn y llysoedd, y proffesiwn a鈥檙 farnwriaeth yn golygu bod rhai newidiadau a datblygiadau Cymreig yn yr awdurdodaeth sy鈥檔 cyd-fynd 芒 datblygiadau cyfansoddiadol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru a鈥檙 Cynulliad yn ymgynghori ar y cwestiwn yma ar y funud ac felly bydd yn drafodaeth ddiddorol dros y misoedd nesaf.鈥
Arweiniwyd y panel beirniaid ar gyfer y gystadleuaeth traethawd gan Syr John Thomas, Llywydd Adran Mainc y Frenhines, tra cyflwynwyd y wobr gan Farwnes Hale, Ustus y Goruchaf Lys. 鈥淩oeddwn i'n hynod o falch a diolchgar fy mod yn un o enillwyr y wobr鈥, meddai Huw, sy鈥檔 derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol tuag at ei astudiaethau doethurol. Cyfraith gyhoeddus Cymru yw fy maes ymchwil ac felly roedd cymryd rhan ym mlwyddyn gyntaf y gystadleuaeth hon yn brofiad gwerthfawr iawn. Rwy'n gobeithio y bydd y gystadleuaeth a'r wobr yn mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd nesaf gan ei fod yn cyfle ardderchog i fyfyrwyr fel fi.鈥
Fel aelod o Gr诺p Ymchwil Cyfraith Gyhoeddus yr Ysgol, ac wrthi鈥檔 cwblhau ei draethawd hir ar Ddatganoli ym Mhrydain ac Ewrop, mae gan Huw arbenigedd helaeth yn y maes hwn. Yn ystod y Gynhadledd, fe gafodd o 鈥 gyda鈥檌 gyd-ymchwilwyr a darlithwyr Ysgol y Gyfraith Dr Osian Rees a Dr Alison Mawhinney 鈥 cyfle i gyflwyno eu gwaith ymchwil diweddar. 鈥淩ydym wedi bod yn edrych ar elfennau cyfreithiol ac ymarferol yr awdurdodaeth yng Ngogledd Iwerddon er mwyn gweld beth ellir ei ddysgu o鈥檙 profiad hwnnw ar gyfer Cymru鈥, meddai Huw, sy鈥檔 dod o Fethesda. 鈥淒rwy nawdd gan Gymdeithas yr Ysgolheigion Cyfreithiol (Society of Legal Scholars) buom yn ymweld ag unigolion a sefydliadau cyfreithiol ym Mhelffast. Yn dilyn ymateb a diddordeb yn y gynhadledd byddwn yn paratoi adroddiad llawn o gasgliadau'r ymchwil dros y misoedd nesaf.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2012