Myfyriwr Prifysgol 黑料不打烊 i weithio ar broject gydag un o awduron amlyca鈥檙 byd
Ashwin SanghiMae Ashwin Sanghi, myfyriwr ym Mhrifysgol 黑料不打烊 鈥 sydd eisoes wedi dod i fri mawr fel awdur yn ei wlad enedigol, India 鈥 yn mynd i lunio nofel ar y cyd gydag awdur a ddisgrifir fel ysgrifennwr llyfrau ffuglen droseddol mwyaf poblogaidd y byd: James Patterson.
Mae James Patterson wedi datblygu cyfres hynod boblogaidd o nofelau, lle mae鈥檔 gweithio gydag awduron lleol i gyd-ysgrifennu鈥檙 gyfres 鈥楶rivate鈥 o nofelau trosedd sydd ar frig y rhestrau gwerthu ledled y byd. Mae鈥檙 gyfres wedi鈥檌 seilio ar weithgareddau asiantaeth dditectif o鈥檙 enw 鈥楶rivate鈥 sydd 芒 changhennau ym mhrif ddinasoedd y byd. Trwy gydweithio ag awduron poblogaidd o wahanol wledydd a diwylliannau mae James Patterson yn llwyddo i gyflwyno darlun cywir a dilys o ddinasoedd mawr, gwledydd a diwylliannau鈥檔 fyd-eang.
Ar gyfer 鈥楶rivate India鈥, mae cyhoeddwyr Ashwin Sanghi, Random House India a Cornerstone, sy鈥檔 gangen o Random House UK, wedi cyhoeddi cydweithio newydd rhwng James Patterson ac Ashwin Sanghi.
Mae Susan Sandon, rheolwr gyfarwyddwr Cornerstone, Random House UK wedi sicrhau鈥檙 hawl i gyhoeddi 鈥楶rivate India鈥 ar draws tiriogaethau鈥檙 Random House Group. Bydd 鈥楶rivate India鈥 (teitl dros dro) yn cael ei gyhoeddi鈥檔 fuan yn 2014 gan amlygu doniau ysgrifennwr nofelau cyffrous amlyca鈥檙 byd ar hyn o bryd ac awdur Indiaidd sydd ar frig y rhestrau gwerthu yno gyda鈥檌 gyfrolau The Krishna Key a Chanakya鈥檚 Chant. Yn y llyfr ceir cyfuniad o鈥檙 symud cyflym a welir yng ngwaith Patterson a鈥檙 ymchwil drwyadl a鈥檙 plotiau gafaelgar sy鈥檔 nodweddu llyfrau cyffrous Sanghi. Bydd cyhoeddi 鈥楶rivate India鈥 yn dilyn blwyddyn o weithgaredd hyrwyddo mawr i James Patterson yn India, gan ddechrau gyda chyhoeddi fersiwn clawr papur unigryw o Alex Cross. Bydd y gyfrol honno鈥檔 ymddangos yn Chwefror 2013, cyn cyhoeddi鈥檙 fersiwn clawr caled yng ngweddill y byd.
Meddai James Patterson: 鈥淢ae ysgrifennu fy nghyfres lyfrau 鈥楶rivate鈥 wedi rhoi cyfle i mi weithio efo awduron lleol ar lyfrau cyffrous sydd wedi鈥檜 lleoli ar hyd a lled y byd. Ni ellid cael gwell lle na鈥檙 India, efo鈥檌 dinasoedd prysur a lliwgar a鈥檌 hanes a鈥檌 threftadaeth gyfoethog, i leoli antur nesaf 鈥楶rivate鈥. Ac ni allwn fod wedi cael gwell partner ysgrifennu nag Ashwin Sanghi efo鈥檌 wybodaeth hanesyddol eang a鈥檌 hoffter o blotiau sy鈥檔 symud yn gyflym. Dwi鈥檔 edrych ymlaen at weithio efo fo i greu antur unigryw wedi鈥檌 leoli yn India.鈥
Meddai Ashwin Sanghi: 鈥淵n ystod y tair blynedd ddiwethaf, mae James Patterson wedi gwerthu mwy o lyfrau nag unrhyw awdur arall ar draws y byd. Mae鈥檔 anrhydedd mawr cael cyd-ysgrifennu nofel gyffrous wedi鈥檌 seilio ar India gyda鈥檙 arch stor茂wr ei hun. Dwi鈥檔 gweld hwn yn gyfle hefyd i mi fireinio fy sgiliau mewn genre ychydig yn wahanol, ond hynod gyffrous. Dwi鈥檔 sicr y bydd y cyfuno yma ar syniadau o鈥檙 Dwyrain a鈥檙 Gorllewin yn arwain at lyfr gafaelgar a darllenadwy iawn.鈥
Meddai Dr Nathan Abrams o Prifysgol 黑料不打烊 a goruchwyliwr PhD Ashwin Sanghi: 鈥淒wi wrth fy modd efo鈥檙 newyddion yma. Mae Ashwin yn dal i fynd o nerth i nerth, o awdur oedd wedi鈥檌 ddysgu ei hun a chyhoeddi ei lyfrau ei hun, i gydweithio gydag un o awduron mwyaf adnabyddus y byd. Dwi鈥檔 edrych ymlaen yn eiddgar at ffrwyth eu cydweithio.鈥
Meddai Ashwin Sganghi ymhellach: 鈥淔e wnes i benderfynu astudio am PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a chwiliais am raglen a fyddai鈥檔 fy ngalluogi i ddilyn fy amcanion eraill mewn bywyd gan roi cyfle i mi鈥檙 un pryd i archwilio fy ngwaith yn feirniadol. Dwi鈥檔 credu bod y broses o hunanymholi a ddechreuwyd ym Mangor yn sicr wedi fy helpu i ddatblygu fel ysgrifennwr. Prifysgol 黑料不打烊 oedd fy newis cyntaf, yn bennaf oherwydd hyblygrwydd y rhaglen ynghyd 芒 safonau academaidd uchel. Roeddwn wedi disgwyl cwblhau鈥檙 rhaglen ar 么l ysgrifennu fy nofel gyntaf, ond yn awr mae鈥檔 ymddangos y byddaf yn ei gorffen ar 么l cyhoeddi fy mhumed!鈥
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2013