Myfyriwr Prifysgol 黑料不打烊 yn ennill gwobr BAFTA Cymru
Osian Williams (Chwith) gyda'r actor Michael SheenMae myfyriwr o Brifysgol 黑料不打烊, Osian Williams, wedi ennill Gwobr BAFTA Cymru.
Mae ei ffilm fer, 鈥樷, a fu'n cyfarwyddo yn ystod ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol 黑料不打烊, wedi ennill y wobr yn y categori 鈥楩furf Fer鈥.
Mae Osian, 21, o Bontypridd, nawr yn parhau 芒鈥檌 addysg ym Mangor drwy astudio cwrs MA mewn gwneud ffilmiau yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a鈥檙 Cyfryngau. Dywedodd Osian:
"Roedd staff yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau yn help mawr i mi. Maent wedi fy nysgu sut i wneud ffilm ac maent wedi cymryd yr amser i ddarllen a helpu gyda'r sgript.
"Maen nhw wedi dangos i mi sut i wneud pethau fy hun. Mae ennill y wobr yn dangos nad oes angen cyllideb fawr, llawer o brofiad na bod yn h欧n i ennill gwobr. Mae'n dangos y gall myfyriwr ei wneud.
"Mae'r fuddugoliaeth yn golygu popeth i mi, ac roedd y noson yn un o鈥檙 rhai gorau yn fy mywyd. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn meddwl y byddwn yn cael fy enwebu am wobr am o leiaf 10 mlynedd.
"Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill a phan wnes i, roedd rhaid i鈥檙 sawl oedd yn eistedd nesaf i mi, Mei Williams, enillydd Cyfarwyddwr Ffeithiol Gorau a Ffotograffiaeth Ffeithiol Gorau, fy ysgwyd a dangos y ffordd i鈥檙 llwyfan.
"Yn y parti ar 么l y seremoni, fe wnes i gwrdd 芒 llawer o wynebau enwog. Cefais fy nhrin fel rhan o'u diwydiant ac roedden nhw鈥檔 fy nghymryd o ddifrif.
"Cefais fy llongyfarch gan Michael Sheen, a Craig Bellamy ... hefyd, fe gefais fanylion cyswllt Charlotte Church!鈥
Mae'r ffilm ddogfen fer tair munud am b诺er cerddoriaeth yn cynnwys y cerddor Manon Llwyd, sy'n edrych yn 么l am y tro cyntaf ar effeithiau ei phreswyliad cerddorol mewn cartref gofal yng ngogledd Cymru.
Fel y mae'n perfformio mewn sesiwn un i un i Emrys Roberts, 93, mae'n chwarae un o'i hoff ganeuon o'i blentyndod, sy'n dod 芒 llif o wahanol atgofion yn 么l iddo o'i orffennol.
Comisiynwyd Osian i gynhyrchu'r ffilm ar gyfer preswyliad artistig cyntaf project Pontio Prifysgol 黑料不打烊. Dangoswyd y ffilm fel rhan o gyfres 鈥楥alon Cenedl鈥 S4C fis Rhagfyr y llynedd.
Dywedodd Dr Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys yn S4C a chyn-ddarlithydd yn yr ysgol Astudiaethau Creadigol a鈥檙 Cyfryngau , a ddarlithiodd i Osian am 2 flynedd, ei fod yn ymwybodol iawn o dalent a photensial Osian wedi iddo ei ddysgu am ddwy flynedd. Meddai Dr Iwan:
鈥淢i wnes i annog Osian i gadw mewn cysylltiad ac anfon ffilmiau roedd yn ei gynhyrchu. O鈥檙 funud y gwelais ei ffilm fer 鈥楥芒n i Emrys鈥 roeddwn yn gwybod bod yn rhaid comisiynu hon i鈥檞 darlledu ar S4C. Dylid cadw mewn cof bod Osian yn cystadlu yn erbyn cynhyrchwyr a chwmn茂au ledled Cymru am gomisiwn o鈥檙 fath, ond roedd safon y gwaith mor arbennig, yn dechnegol, yn olygyddol ac o ran ei weledigaeth, fel nad oedd amheuaeth gennyf ei fod yn haeddu comisiwn. Tipyn o gamp i fyfyriwr prifysgol. Darlledwyd y ffilm fis Rhagfyr y llynedd ar S4C. Mae gyrfa arbennig o flaen Osian os bydd yn parhau i ddatblygu fel hyn, ac mae S4C yn falch o fod wedi bod yn gyfrwng i ddarlledu ei ffilm fer.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2013