Myfyriwr Prifysgol 黑料不打烊 yn ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel
Bryn Terfel, y seren byd opera ryngwladol, yn cyflwyno'r Wobr i Huw Ynyr.Mae myfyriwr Cerddoriaeth o Brifysgol 黑料不打烊 i鈥檞 longyfarch ar ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni.
Mewn cystadleuaeth o safon ardderchog a gynhaliwyd ac a ddarlledwyd yn fyw ar S4C nos Sul 14 Hydref 2012, bu Huw Ynyr, canwr yn cystadlu yn erbyn Lois Eifion, sy鈥檔 astudio gradd uwch MA mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol 黑料不打烊, a phedair arall. Prif enillwyr cystadlaethau perfformio Eisteddfod yr Urdd sy鈥檔 cael gwahoddiad i gystadlu ar gyfer Ysgoloriaeth Bryn Terfel. Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, sef medal a鈥檙 Ysgoloriaeth o 拢4,000, i Huw gan Bryn Terfel.
Meddai Chris Collins, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth:
鈥淩wy鈥檔 falch iawn o lwyddiant Huw 鈥 llwyddiant sy鈥檔 gydnabyddiaeth o鈥檌 ddoniau arbennig. Mae鈥檔 llawn haeddu ennill. Mae ganddo lais canu sy鈥檔 unigryw; mae ganddo reolaeth wych, ond hefyd mae鈥檔 naturiol ac yn amryddawn. Mae hefyd yn fyfyriwr gwych, yn gweithio鈥檔 galed ac yn ymroddgar, ac yn cymryd rhan lawn ym mywyd y Brifysgol.
鈥淟longyfarchiadau hefyd i Lois Eifion, myfyrwraig o鈥檙 Ysgol Gerdd, a ddaeth mor agos at ennill hefyd.鈥
Huw Ynyr yn perfformio yn y Gystadleuaeth.Ar gyfer y Gystadleuaeth, roedd rhaid perfformio rhaglen 12 munud o hyd o flaen panel o feirniaid arbenigol. Roedd rhaglen Huw yn cynnwys dehongliad o 鈥極'r Dwyrain mae'r Golau鈥 gan Alessandro Acarletti, 鈥楶an ddaw'r Nos鈥 gan Meirion Williams a 鈥楪it芒r Abruzzese鈥 gan Francesco Tosi.
Roedd safon y Gystadleuaeth yn uchel iawn, ond roedd y Beirniaid yn unfrydol.
Yn 么l Gavin Ashcroft, un o'r beirniaid, 鈥淔e gawsom wledd i鈥檙 llygaid ac i鈥檙 glust.
鈥淩oedd yn braf gweld cymaint o amrywiaeth ar y llwyfan a鈥檙 safon mor uchel 鈥 ac yn y diwedd, bu鈥檔 rhaid edrych ar bwy oedd fwyaf cyson o ran safon.
鈥淏eth oedd yn arbennig am Huw yw bod rhyw anwyldeb yn perthyn iddo, ac mae ganddo lais melfedaidd iawn.
鈥淧erfformiodd yn wych heno a dwi'n si诺r y bydd yn datblygu i fod yn ganwr anhygoel.鈥
Meddai Huw Ynyr:
鈥溾橳ri chynnig i Gymro,鈥 meddan nhw, ond ar fy ail gynnig y llwyddais i!鈥
鈥淩oedd yn brofiad gwych perfformio, ac roedd pawb yn fwy na theilwng o鈥檙 wobr, felly mi ges i dipyn o sioc pan wnaethon nhw gyhoeddi fy enw i.
Huw Ynyr a Lois Eifion efo Bryn Terfel.鈥淩ydw i am gadw鈥檙 arian, a disgwyl i weld sut y bydd y llais yn datblygu, ac yna, mewn blynyddoedd i ddod, ar 么l iddo setlo, gobeithio y gallaf i fynd i astudio'r llais ymhellach.鈥
Nod yr Ysgoloriaeth yw meithrin talentau rhai o berfformwyr ifainc mwyaf blaenllaw Cymru a rhoi鈥檙 cyfle iddynt ddatblygu ymhellach yn eu maes. Cyn y gystadleuaeth, bydd yr wyth cystadleuydd yn cael Dosbarthiadau Meistr gan arbenigwyr yn eu maes.
Enillodd Huw Ynyr Ysgoloriaeth Rhagoriaeth werth 拢3,000 i astudio yn Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol, ac mae bellach yn y drydedd flwyddyn.
鈥淢i benderfynais ddod i astudio yma oherwydd bod y cwrs yn edrych yn dda ac roeddwn i鈥檔 benderfynol o astudio yng Nghymru.
Yn gynharach eleni, roedd Huw Ynyr wedi ennill y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod ryng-golegol a gynhaliwyd ym Mhrifysgol 黑料不打烊.
Mae'n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau鈥檙 Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a鈥檙 糯yl Gerdd Dant. Enillodd Huw Ynyr yr Unawd Cerdd Dant 19-25 a鈥檙 Unawd 19-25 yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Enillodd Lois Eifion yr Alaw Werin Unigol 19-25 a鈥檙 Unawd Offerynnol 19-25 yn yr Urdd, gan ddod yn gyntaf ac yn ail hefyd yng Ngwobr Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Ryng-Golegol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2012