Myfyriwr y gyfraith yn cipio gwobr chwaraeon
Ben PritchardMae Adran Hamdden a Chwaraeon Prifysgol 黑料不打烊 wedi dyfarnu Gwobr Goffa Llew Rees eleni i Benjamin Pritchard, myfyriwr sy鈥檔 astudio鈥檙 Gyfraith. Bydd Ben yn graddio'r wythnos hon gyda gradd Baglor yn y Gyfraith. Triathletwr o Abertawe yw Ben, ond mae鈥檔 aelod o nifer o glybiau eraill yr Undeb Athletau hefyd, a bu鈥檔 is-gapten Clwb Hoci鈥檙 Dynion, trefnydd digwyddiadau鈥檙 Clwb Beicio Ffordd, ac yn aelod Varsity o d卯m nofio 黑料不打烊.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae Ben wedi cystadlu mewn nifer o gystadlaethau, yn cynnwys Triathlon Sbrint Llanrwst 2012, lle daeth yn drydydd yng ngr诺p oedran 20-29. Hefyd yn 2012 cafodd Ben gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau Triathlon Sbrint Gr诺p Oedran Ewrop yn Nhwrci. Bydd yn cynrychioli Prydain yn y gystadleuaeth eto eleni.
Dywedodd Ben: 'Bydd y wobr ariannol yn help mawr tuag at gostau鈥檙 broses hyfforddi, prynu dillad ac offer arbenigol, teithio ac, yn bwysicaf oll, cystadlu.'
Mae Ben wedi gosod sawl her iddo鈥檌 hun eleni, ond ei brif nod yw gorffen yn y 50 uchaf ym Mhencampwriaethau Ewrop. Yr ail nod yw gorffen yn uchel yng nghyfres Grand Prix Cymru, gan obeithio bydd hyn wedyn yn ei alluogi i gystadlu yng Uwch-gyfres Prydain ar gyfer athletwyr elitaidd. Mae wedi gosod nifer o nodau gyda鈥檙 Undeb Athletau hefyd, yn cynnwys ennill digon o bwyntiau Beicio Prydain i gynrychioli T卯m Beicio Prifysgol 黑料不打烊 mewn ras ffordd.
Meddai Ben: 鈥淩wyf hefyd yn bwriadu datblygu a gwella fy sgiliau triathlon; defnyddio鈥檙 profiad o gynrychioli fy ngwlad i gael mwy o sylw yn y byd academaidd yn y dyfodol drwy gydnabod y cymorth a ddarperir gan Brifysgol 黑料不打烊 o ran darparu cyfleusterau hyfforddi. Bydd cymorth ariannol o'r maint hwn yn mynd yn bell o ran fy nghefnogi i gyrraedd fy nhargedau, a bydd yn fy ngalluogi i gystadlu hyd eithaf fy ngallu.鈥Ben yn derbyn Gwobr Llew ReesDros y blynyddoedd mae Ben wedi gweithio'n galed i godi proffil chwaraeon ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Mae bod yn aelod o bwyllgor sawl clwb chwaraeon wedi caniat谩u iddo feithrin cysylltiadau da rhwng gwahanol chwaraeon, ac annog llawer o athletwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd. Mae Ben wedi bod yn llais i鈥檙 clybiau yn rhinwedd ei swydd fel cynorthwyydd yn ymgyrch yr Undeb Athletaidd, yn gwrando ar syniadau gan aelodau'r clybiau, ac yn sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed. Mae hefyd yn cystadlu'n rheolaidd yn lliwiau Prifysgol 黑料不打烊, yn esiampl i bawb, ac mae鈥檔 diogelu enw da Prifysgol 黑料不打烊.
Mae Ben wrthi ar hyn o bryd yn sefydlu clwb triathlon yn yr Undeb Athletau. Mae'n gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o fyfyrwyr i gymryd rhan yn y gamp, ac y bydd y rhai sy'n rhedeg y clwb yn gallu defnyddio鈥檜 gwybodaeth a'u profiad i gynhyrchu athletwyr triathlon llwyddiannus newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013