Myfyriwr yn cyfrannu at gynhyrchu ffilm ar gyfer teledu ac ar gyfer y Brifysgol
Osian WilliamsMae myfyriwr trydedd flwyddyn sy鈥檔 astudio BA mewn ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ac sydd wedi cychwyn cwmni cyfryngau ei hun, eisoes wedi gweithio ar ffilm i鈥檙 BBC, cael ffilm ganddo wedi鈥檌 darlledu ar S4C ac wedi鈥檌 gomisiynu i gynhyrchu fideos byr i鈥檙 Brifysgol.
Daw Osian Williams sydd yn 20 oed, yn wreiddiol o Bontypridd yn Ne Cymru. Hoff ddiddordeb Osian yw cynhyrchu rhaglenni, boed yn rhai dogfen, newyddiadurol neu radio. Gan fod cymaint o ddiddordeb ganddo mewn byd y cyfryngau penderfynodd y buasai yn syniad gwych dechrau cwmni ei hun. Enw ei gwmni ydi SSP Media.
Esboniodd Osian: 鈥淣es i ddewis dechrau cwmni oherwydd y cyfleoedd sydd ar gael ym Mangor. Mae'n wych sut allwn ni weithio gyda鈥檙 Brifysgol/Undeb Myfyrwyr a mwy i gynhyrchu ffilmiau iddyn nhw. Rydw i鈥檔 gredwr mawr mewn creu cyfleon eich hunan yn y byd yma.鈥
鈥淩ydyn ni鈥檔 ffilmio amrywiaeth o bethau a dyna i fi, yw鈥檙 peth gorau. Rydyn ni鈥檔 cwrdd 芒 llawer o bobl ddiddorol ac mae gennym ni鈥檙 fraint o gynhyrchu amrywiaeth o waith creadigol wedi seilio ar wahanol bethau.鈥
Cafodd Osian fwrsariaeth o 拢500 gan y Brifysgol am astudio ei gwrs trwy gyfrwng y Gymraeg ac roedd hyn yn hwb mawr iddo ac yn gyfle iddo brynu ei offer ei hun. Ychwanegodd Osian,
鈥淎wgrymodd fy nghariad i mi ddefnyddio鈥檙 arian at rywbeth fydd o werth i mi trwy ddysgu yn y cwrs. Felly nes i brynu camera. Ac ers hynny rydw i a SSP Media wedi dechrau defnyddio offer proffesiynol. Ein prif gamer芒u ar hyn o bryd yw 2 Canon 7D鈥檚 ac un Canon 5Dii.鈥
Yn ddiweddar cafodd Osian y fraint o fod yn rhan o griw cynhyrchu rhaglen dogfen o鈥檙 enw Fy chwaer a Fi (S4C)/Beautiful Lives (BBC). Meddai Osian: 鈥淩oedd gweithio gyda chyfarwyddwr mor brofiadol 芒 Mei Williams yn help mawr i fi. Mae Mei yn dysgu nifer o bethau i mi ac yn helpu fi datblygu yn y maes.鈥
Mae Osian a chriw SSP Media hefyd wedi cydweithio gyda鈥檙 Uned Recriwtio Myfyrwyr i gynhyrchu dau fideo ar gyfer darpar fyfyrwyr er mwyn rhoi blas iddynt o fywyd myfyriwr ym Mangor. Cliciwch ar yr isod i wylio鈥檙 fideos:
Mae鈥檙 cwmni hefyd yn gweithio鈥檔 agos gyda , sydd yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau ac adloniant yn y Brifysgol ac yn yr ardal leol. Ychwanegodd Osian: 鈥淢ae SSP Media yn gweithio yn agos gyda Phontio. Rydyn ni鈥檔 creu ffilm fer o nifer o鈥檙 digwyddiadau gwych sydd yn cael ei drefnu ganddyn nhw. Mae yn helpu SSP Media yn fawr iawn i ddatblygu.鈥
Mae gan SSP Media cytundeb gyda UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg 黑料不打烊) i gymryd lluniau safon uchel o鈥檙 noson Clwb Cymru yn Academi. Dywedodd Osian: 鈥淒yma oedd cytundeb cyntaf SSP Media ac rydw i yn ddiolchgar iawn am gymorth UMCB. Rydw i yn gwneud set DJ yn ystod yr un noson hefyd felly maen help mawr i fi gael mwy o aelodau yn SSP Media i neud y lluniau!!鈥
Mae hwn yn fersiwn wedi鈥檌 gwtogi o erthygl gan Cari Ann Roberts, myfyrwraig yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau. .
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2012