Myfyriwr yn ennill lleoliad i raddedigion gyda chwmni Landrover
Yr haf yma bydd un o raddedigion 黑料不打烊, sydd wrth ei fodd gyda Landrovers, yn dechrau mewn swydd gyda鈥檙 cwmni. Dywed Robin Boyd, a gafodd radd Meistr mewn Peirianneg Electronig, bod ei gyfnod ym Mangor wedi ei helpu i 鈥榝eddwl fel peiriannydd鈥. Yn fuan caiff gyfle i roi鈥檙 cyfan y mae wedi ei ddysgu ar waith fel Peiriannydd Datblygu Cynnyrch.
Meddai Robin, 鈥淔e wnaeth fy ngradd fy helpu i feddwl fel peiriannydd. Oherwydd hynny rydw i bellach yn taclo problemau mewn ffordd gwbl wahanol i鈥檙 ffordd roeddwn yn gwneud hynny pan ddechreuais fy ngradd. Mae astudio Peirianneg ym Mangor yn fwy na gradd ... mae hefyd yn gyflwr meddwl!鈥
Yn ychwanegol at ei astudiaethau, bu Robin yn brysur yn y brifysgol yn ymwneud 芒鈥檙 Stage Crew, sy鈥檔 helpu nifer o gymdeithasau鈥檙 brifysgol. Hefyd daeth 芒鈥檌 Landrover hynafol ei hun gydag o i Fangor.
Ychwanegodd Robin, 鈥淒wi鈥檔 wirioneddol edrych ymlaen at fy swydd newydd efo Landrover. Byddaf yn dechrau fel Peiriannydd Datblygu Cynnyrch ac felly byddaf yn ymwneud ag ymchwil, datblygu a phrofi鈥檙 cerbydau diweddaraf. Nid yn unig caf gyfle i ddefnyddio fy ngradd ond hefyd i ymwneud ag un o鈥檓 hoff bethau - sef cerbydau Landrover!鈥
鈥淏yddaf yn gweithio yn Swydd Warwick a byddaf yn symud yno pan fydd fy nghontract yn dechrau ym Medi. I fynd drwy鈥檙 broses gyfweld i raddedigion roedd rhaid i mi wneud profion seicometreg ar y rhyngrwyd yn y rownd gyntaf. Ar 么l i mi fynd drwy鈥檙 cam cyntaf yn llwyddiannus roedd rhaid i mi wneud llawer o fathau eraill o brofion, rhoi cyflwyniad, gwneud ymarfer t卯m, chwarae rhan a chael cyfweliad. Fe wnaeth y profiad allgwricwlaidd a gefais ym Mangor fy helpu鈥檔 fawr i roi hyder i mi fynd drwy鈥檙 holl brofion hyn a delio efo gwahanol bobl.鈥 鈥
Tra ym Mangor bu Robin yn ymwneud hefyd 芒鈥檙 gystadleuaeth Menter trwy Ddylunio, lle roedd yn rhan o d卯m o fyfyrwyr y gofynnwyd iddynt ddylunio, marchnata a gwerthu cynnyrch newydd. T卯m Robin enillodd y gystadleuaeth yn y diwedd.
Meddai Robin, 鈥淩oedd Menter trwy Ddylunio鈥檔 wych oherwydd gellais weithio efo cyd fyfyrwyr o amrywiaeth o wahanol ddisgyblaethau. Fe wnaeth hynny gyfoethogi鈥檙 profiad a gefais yn y Brifysgol gan fod gweithio fel rhan o d卯m yn galluogi pob un ohonom i ddatblygu a defnyddio ein cryfderau.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2011