Myfyriwr yn helpu i drawsnewid gwefan Sain
Steffan ThomasMae un o fyfyrwyr 么l-raddedig Prifysgol 黑料不打烊 yn trawsnewid gwefan y cwmni cerddoriaeth, Sain, fel rhan o Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (Knowledge Transfer Partnership) rhwng y Brifysgol a鈥檙 cwmni.
Mae Steffan Thomas, 22, o Goedpoeth ger Wrecsam yn gyn ddisgybl Ysgol Morgan Llwyd. Graddiodd o Brifysgol 黑料不打烊 gyda gradd ddosbarth gyntaf mewn Cyfathrebu a鈥檙 Cyfryngau cyn mynd ymlaen i astudio ar gyfer M.A. mewn Astudiaethau Ffilm a鈥檙 Cyfryngau. Mae Steffan nawr yn astudio yn rhan amser ar gyfer ei M.A. wrth weithio i Sain, yn ogystal a helpu dysgu rhai o fodylau鈥檙 flwyddyn gyntaf ar raddau cyfryngol yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a鈥檙 Cyfryngau.
Meddai Steffan, 鈥淢i rydw i鈥檔 gweithio gyda Sain mewn partneriaeth 芒鈥檙 Brifysgol ar gynllun KTP sydd a鈥檙 bwriad o ail-leoli Sain yn strategol drwy adolygu ei weithgareddau busnes a thechnoleg i gadarnhau ei safle blaenllaw ym marchnadoedd cerddoriaeth Cymru.
鈥淢ae鈥檙 farchnad cerddoriaeth wedi newid yn fawr yn y blynyddoedd diwethaf. Er mwyn i Sain goroesi yn y farchnad yma mae鈥檔 rhaid i鈥檙 model gwerthu a marchnata newid. Mi rydw i鈥檔 edrych yn fanwl ar gynllun busnes y cwmni ac ar y model o werthu ein cynnyrch trwy鈥檙 we.
鈥淓rs i mi ddechrau gweithio ar y project fis Hydref 2009 mi rydw i wedi ail gynllunio鈥檙 wefan ac wedi ail strwythuro鈥檙 data fel ein bod ni鈥檔 gallu dosbarthu ein cerddoriaeth ar ffurf ddigidol i Amazon, iTunes, 7Digital a nifer o gwmn茂au dosbarthu eraill ar hyd y byd. Mi fydd y cyfnod nesaf o鈥檙 prosiect yn edrych ar systemau marchnata Sain.鈥
Mae Steffan yn falch iawn o鈥檙 cyfleoedd y mae o wedi eu derbyn drwy weithio ar y project.
Meddai, 鈥淢ae鈥檙 gwaith yn cynnig sialens newydd bob dydd. Doeddwn i ddim yn gwybod gymaint 芒 hynny am farchnata na gwefannau pan gychwynnais gyda Sain ond ar hyd y flwyddyn ddiwethaf mi rydw i wedi cael y cyfle i ddysgu llawer o dan arweiniad y Brifysgol.
鈥淩ydw i鈥檔 astudio ar gyfer cymhwyster sy鈥檔 cyfateb 芒 gradd mewn rheolaeth business a chyllid trwy system y KTP ac mi rydw i hefyd wedi cael y cyfle i deithio i America ac i Lydaw a mis yma mi rydw i鈥檔 mynd i Ffrainc gyda Sain i hyrwyddo鈥檙 cwmni mewn ffair cerddoriaeth.鈥
Ychwanegodd, 鈥淢i rydw i鈥檔 falch iawn o bob cyfle dwi wedi cael gan y Brifysgol. Cefais swydd o fewn y cyfryngau syth ar 么l graddio gyda鈥檙 cwmni teledu Chwarel. Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol ydy i barhau i wneud gwaith ymchwil o fewn y diwydiant. Mi rydw i鈥檔 gobeithio cychwyn a鈥檙 PhD mis Medi nesaf yn ymchwilio i effaith dosbarthu digidol ar gwmn茂au cyfryngol lleiafrifol.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2011