Myfyriwr yn rasio yn erbyn y cloc i achub un o鈥檙 gwyfynod mwyaf prin yng Nghymru
Mae myfyriwr yn byw mewn ambiwlans wedi ei addasu mewn coetir yn Sir Fynwy wrth iddo rasio yn erbyn y cloc i achub un o鈥檙 gwyfynod mwyaf prin yng Nghymru.
Joel yn ei ambiwlans!Mae pob eiliad yn cyfrif i Joel Walley, myfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol 黑料不打烊, sy鈥檔 byw鈥檔 galed yng Nghoed Hendre, mewn ymgais i fod mor agos 芒 phosibl i鈥檙 Siani ddolennog, sydd bellach yn byw鈥檔 rheolaidd mewn dim ond dau fan yng Nghymru.
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chadwraeth Pili-pala Cymru wedi cynnal gwaith rheoli brys yn y coetir dros y ddau aeaf diwethaf er mwyn gwella cynefin naturiol y gwyfyn hardd (芒鈥檙 enw anffodus, Drab Looper, yn Saesneg).
Fel rhan o鈥檌 waith ymchwil MSc, mae Joel yn cymharu amgylchiadau yn y coetir sy鈥檔 cael ei reoli gan CC Cymru 芒 chadarnle arall y rhywogaeth sydd dros y ffin yn Swydd Henffordd.
Bydd yn treulio鈥檙 haf yn chwilio yn y mieri a鈥檙 rhedyn mewn ymgais i daflu goleuni ar hoff fannau magu鈥檙 gwyfyn, a fydd yn hanfodol o ran eu goroesi. Dywedodd Richard Gable, rheolwr ardal leol CC Cymru, ei bod yn ymddangos bod y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud gan Gadwraeth Pili-pala Cymru i wneud y coetir yn fwy deniadol i鈥檙 Siani ddolennog wedi helpu am y tro.
Dywedodd, "Mae ein coetiroedd yn darparu cynefinoedd hanfodol ar gyfer llawer o rywogaethau ac rwyf wrth fy modd bod y Siani ddolennog wedi cael ei chanfod yng Nghoed yr Hendre. "Mae鈥檙 math hwn o wyfyn yn hynod brin yng Nghymru, felly mae鈥檔 rhaid i ni wneud popeth er mwyn sicrhau bod ei hoff gynefin yn cael ei reoli a鈥檌 gadw." Bydd gwaith Joel yn hanfodol o ran darganfod pa amodau sydd orau gan y Siani ddolennog, fel y gall CC Cymru a Chadwraeth Pili-pala Cymru gynnal gwaith rheoli pellach y gaeaf hwn i achub y gwyfyn fel rhywogaeth sy鈥檔 magu yng Nghymru.
Dywedodd Russel Hobson, pennaeth cadwraeth Cymru ar gyfer Cadwraeth Pili-pala Cymru, "Mae Joel wedi derbyn yr her hon gyda brwdfrydedd. Ar adegau, prosiectau myfyrwyr fel hyn yw鈥檙 unig ffordd i ddeall anghenion cadwraeth rhywogaethau prin. "Mae Cadwraeth Pili-pala yn ffodus i ganfod myfyrwyr mor ymroddgar 芒 Joel i wneud y gwaith pwysig hwn. "Mae hyn yn oed yn byw mewn ambiwlans sydd wedi ei addasu er mwyn bod mor agos 芒 phosibl i鈥檙 safleoedd a gwneud y mwyaf o bob eiliad o dywydd heulog." Pennawd: Joel yn cymryd seibiant yn ei ambiwlans.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Awst 2011