Myfyrwraig Busnes arobryn yn graddio
Bydd cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd y Trallwng yn dathlu ei llwyddiant yn seremoni raddio Prifysgol 黑料不打烊 yr wythnos hon.
Susan Jeffreys
Bydd Susan Jeffreys, 21, o'r Trallwng, yn graddio gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cyfrifeg a Chyllid yr wythnos hon. Yn ogystal, fe ddyfarnwyd Gwobr Goffa Craig Williams am y perfformiad gorau mewn unrhyw radd israddedig o fewn Ysgol Business 黑料不打烊.
Meddai Susan: "Dewisais 黑料不打烊 dros unrhyw brifysgol arall oherwydd fe wnaeth cyfeillgarwch a chymwynasgarwch y staff wneud i mi benderfynu'n derfynol ar Brifysgol 黑料不打烊. Mae鈥檙 llety a gynigir gan Brifysgol 黑料不打烊 o safon uwch na phrifysgolion eraill i mi roi cais iddynt, roedd hyn rhan bwysig yn fy mhenderfyniad.
"Yr agwedd orau o'r cwrs oedd y dewis o fodiwlau. Mae'r modiwlau craidd yn ymwneud yn uniongyrchol 芒'ch gradd, ond gallwch hefyd ddewis o amrywiaeth o fodiwlau dewisol: er enghraifft cymerais rhai mewn marchnata a rheoli. Mae'r hyblygrwydd hwn yn gwneud y cwrs yn ddiddorol ac yn rhoi amser i benderfynu pa feysydd pwnc yr hoffech barhau i archwilio.
"Un o'r uchafbwyntiau yw bod deunydd cwrs y graddau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chyfrifo yn ymwneud 芒 rhai cymwysterau proffesiynol cyfrifyddu, sy'n caniat谩u i fyfyrwyr wneud cais am eithriadau ar gyfer yr arholiadau proffesiynol hyn os ydynt yn dymuno dilyn gyrfa mewn cyfrifeg.
"Mae'r holl staff yn Ysgol Busnes 黑料不打烊 yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt. Maent bob amser ar gael os ydych yn ansicr am unrhyw beth ac yn hawdd cysylltu trwy e-bost.
"Yr wyf yn awr yn gobeithio dod o hyd i gyflogaeth mewn cwmni cyfrifeg ble alla i gwblhau hyfforddiant i fod yn gyfrifydd cymwysedig. Gwnaeth cymryd rhan mewn seminarau a thiwtorialau rhoi'r hyder yr wyf ei angen ar gyfer cyflogaeth."
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013