Myfyrwraig greadigol yn rhyddhau record elusennol
Mae Aly, sy'n astudio Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol wedi ysgrifennu a recordia c芒n elusenol.Mae Aly Shields, sy'n ofalwraig ac yn fyfyrwraig h欧n o Landudno, wedi rhyddhau record er budd , elusen sy'n codi ymwybyddiaeth am gyflyrau anghyffredin sy'n aml yn arwain at gamddiagnosis i'r bobl dan sylw, ac sy'n cefnogi'r bobl hynny a'u teuluoedd.
Mae'r g芒n Warriors gan Aly ar gael ar a am $1.29 neu oddeutu 拢1 o dan label PANS PANDAS UK.
Mae PANS a PANDAS yn disgrifio amrywiaeth o gyflyrau niwro-seiciatrig megis anhwylder gorfodaeth obsesiynol, gwingiadau ac anhwylderau bwyta sy'n cael eu hysgogi gan ymateb imiwn diffygiol sy'n achosi llid yn ymennydd y plentyn. Yn aml ni wneir diagnosis.
Mae Aly'n disgrifio sut yr effeithiodd y cyflwr ar ei mab:
鈥淏ron i naw mlynedd yn 么l roedd fy mab yn ddifrifol wael. Fe ddes i o hyd i wybodaeth am y cyflwr Pans Pandas a oedd yn cyd-fynd 芒'i holl symptomau. Fe wnes i argraffu'r wybodaeth a'i rhoi i'r clinigwr a oedd yn gofalu am fy mab. Ni wnaethpwyd unrhyw beth 芒'r wybodaeth ac ar y pryd doedd unman arall i droi heblaw'r Unol Daleithiau, ond doedd gen i mo'r modd i deithio yno.
Y llynedd, cefais glywed y byddai fy mab yn gorfod cymryd meddyginiaeth am weddill ei oes. Doeddwn i ddim yn fodlon derbyn hynny felly dechreuais ymchwilio eto, ac wrth wneud hynny fe ddes i o hyd i Pans Pandas eto, ond y tro hwn roedd rhywfaint o olau ym mhen draw'r twnnel, sef PANS PANDAS UK. Ar hyd y blynyddoedd roedd fy mab wedi cael camddiagnosis ac yntau 芒 chyflwr y gellid ei drin, a cholli鈥檙 profiad o fod yn fachgen yn ei arddegau o'r herwydd. Mae wedi gwylio ei ffrindiau'n mynd i brifysgol ac yntau prin yn gallu gadael y t欧.
Mae sefyllfa Aly a'i mab wedi gwella, ac mae ei mab yn gwella鈥檔 raddol. Eglurodd:
"
Rhai o aelodau c么r PhilsHarmonics a fu'n canu ar y recordiad.: Credyd a hawlfraint llun Mike Shields.Oherwydd cefnogaeth PANS PANDAS UK, dwi wedi cael fy ngrymuso i brofi achos fy mab ac mae o bellach yn cael rhyw fath o driniaeth. Fe fydd yn cael llawdriniaeth a dwi wedi sicrhau cyllid gan y GIG iddo weld arbenigwr yn Llundain yn ddiweddarach yn y mis. Dechreuodd ar y driniaeth ym mis Mehefin gyda chwrs o wrthfiotigau ac erbyn mis Awst gallodd dreulio wythnos yn hwylio ar F么r Iwerddon. Bydd y llwybr at adferiad yn hir gan na chafodd y driniaeth gywir ar y dechrau. Erbyn hyn dwi'n chwilio am deuluoedd yng Nghymru y mae eu plant yn dioddef o Pans Pandas.
A hithau'n fyfyrwraig ag anableddau ei hun, ac yn ofalwraig i'w mab, defnyddiodd Aly ei doniau creadigol i ysgrifennu'r g芒n ar gais cadeirydd yr elusen PPUK, a oedd yn gwybod am gefndir creadigol Aly fel cantores sy'n defnyddio theatr i gyflwyno a thrafod materion cymdeithasol anodd gyda phlant ysgol.
Meddai Aly: "Fe 'sgwennais Warriors y diwrnod hwnnw ac anfon recordiad bras iawn ohoni at Georgia (Cadeirydd PPUK). Mae hi'n eithriadol o brysur yn ymladd achos amrywiol deuluoedd a chlywais i ddim yn 么l am ddau ddiwrnod a dechrau meddwl, 'Mae'n rhaid bod y g芒n wir yn ofnadwy!'. Yna fe ffoniodd hi fi yn ei dagrau a dweud bod y geiriau'n adlewyrchu sut mae rhieni a phlant yn teimlo.鈥
Meddai Georgia Tuckey, Cadeirydd PANS PANDAS UK:
鈥淢ae WARRIORS yn cynrychioli profiadau teuluoedd eraill sy'n ei chael hi'n anodd ymdrin 芒'r "system" ar ran eu plant ac mae'n disgrifio trasiedi'r symptomau. Mae'r geiriau'n llawn ystyr i deuluoedd sy'n gofalu am eu plant mewn amgylchiadau mor enbyd."
Aeth Aly yn ei blaen i ddweud: 鈥淵n y g芒n mae rhiant yn siarad 芒'i phlentyn ac yna clywir llais y plentyn. Mae c么r plant o Dreffynnon, o'r enw PhilsHarmonics, yn canu ar y sengl ynghyd 芒 darn byr o rapio. Fe ganodd y c么r yn wych ar y recordiad ar ran plant sy'n rhy wael i fod 芒 llais.
鈥淩ydw i wedi mynd ar ofyn cymaint o bobl (ond heb ddwyn fel yn y g芒n!) i gynhyrchu'r record hon. O fenthyg git芒r i gael help gan fy nhad i greu fideo allan o luniau llonydd i gyd-fynd 芒'r g芒n.
Fe wnes i gysylltu 芒 Russ Hayes yn Orange Studios ym Mhenmaenmawr gan fod cymaint o bobl yn ei argymell, ac roedden nhw i gyd yn llygad eu lle, mae o wedi bod yn anhygoel.
Wrth esbonio pam ei bod hi wedi ysgrifennu Warriors, meddai:
鈥淲rth gwrs, mae angen arian ar yr elusen i barhau 芒鈥檜 gwaith a 'dan ni eisiau i鈥檙 g芒n godi arian, ond mae codi ymwybyddiaeth yn hollbwysig. Mae 'na deuluoedd 芒'u plant yn dioddef o'r cyflwr hwn, ond dydyn nhw ddim yn gwybod bod Pans Pandas yn bodoli, mae angen i ni estyn allan atyn nhw. Mae'n rhaid i weithwyr iechyd proffesiynol fod yn ymwybodol o ganlyniadau dinistriol gwneud camddiagnosis o salwch meddwl ar blant, pobl ifanc ac oedolion ifanc pan mai cyflwr corfforol sydd ganddyn nhw y gellir ei drin. Mae ymchwil i Pans Pandas hefyd yn hanfodol. Hyd yn hyn, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi ei wneud yn y Deyrnas Unedig, sy'n rhyfeddol (yn fy marn i) o ystyried y gallai goblygiadau'r cyflyrau hyn newid cyfeiriad seiciatreg a sut mae rhai cyflyrau iechyd meddwl yn cael eu gweld."
Mae Aly hefyd yn sianelu ei hegni creadigol i astudio gradd mewn Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Mae hi hefyd yn ysgrifennu ar gyfer y sgrin fach, ac yn defnyddio ei phrofiadau hi a phrofiadau pobl eraill o PANS a Pandas fel deunydd crai, a hoffai fod yn awdur a chael ei gwaith wedi ei gyhoeddi.
Am ei phrofiad yn y Brifysgol meddai:
鈥淓r mai 黑料不打烊 yw鈥檙 brifysgol agosaf, dyma'r opsiwn mwyaf deniadol hefyd oherwydd bod y radd yn cynnwys ysgrifennu ar gyfer y sgrin sef rhywbeth yr oedd arnaf i eisiau ei astudio yn arbennig.
鈥淒wi wrth fy modd efo'r amrywiaeth yn y brifysgol ac mae wedi rhoi cyfle imi adeiladu bywyd newydd ar 么l gorfod rhoi鈥檙 gorau i fy musnes i fynd yn ofalwr. Hefyd, dwi mor ddiolchgar am y gefnogaeth ges i, fel gofalwr ac fel myfyrwraig anabl (Dyslecsia a Ffibromyalgia)."
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2019