Myfyrwraig Prifysgol 黑料不打烊 i berfformio gyda mab Frank Zappa
Mae myfyrwraig o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol 黑料不打烊 yn edrych ymlaen at berfformio darn o waith Frank Zappa ar daith o amgylch y DU yn hwyrach y mis hwn.
Bydd Sioned Eleri Roberts, 30, o Fangor, yn perfformio un o ganeuon y gitarydd chwedlonol ar y clarin茅t gyda'i fab, Dweezil, sydd yn teithio gyda'i fand Zappa Plays Zappa.
Fe enillodd Sioned ysgoloriaeth KESS y llynedd ac mae ar fin cwblhau gradd Mhres sydd yn canolbwyntio ar gerddoriaeth gyfoes clarin茅t ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Dywedodd: "Mae'r band yn gr诺p o gerddorion gwych, ac maent yn mynd yn chwarae cerddoriaeth Frank Zappa gyda dilysrwydd ac angerdd. Maent wedi ennill Grammy am y 'perfformiad roc offerynnol gorau' ychydig flynyddoedd yn 么l.
"Yr wyf yn fan mawr o gerddoriaeth roc a cerddorol Frank Zappa ac ychydig flynyddoedd yn 么l roeddwn yn falch o glywed bod mab Frank Zappa, Dweezil, yn perfformio cerddoriaeth ei dad.
"Rwyf wedi bod i鈥檞 weld yn perfformio sawl gwaith ac yn ystod eu taith ddiwethaf, roeddwn yn ddigon ffodus i gwrdd 芒 Dweezil a manteisies ar y cyfle i ofyn ychydig o gwestiynau am Goncerto clarinet ei dad, sef Mo N Herb鈥檚 Vacation. Mi wnaeth hyn arwain i mi rannu fy recordiau yn chwarae鈥檙 clarinet ar wefan Dweezil.
"Fisoedd yn ddiweddarach ac yn ddi-rybydd, cefais neges gan Dweezil yn gofyn a hoffwn i ymuno 芒'r band ar y llwyfan i chwarae un o ganeuon Frank Zappa ar un neu ddau o ddyddiadau yn ystod eu taith yn y DU. Roeddwn, ac rwyf dal, wrth fy modd. Rwyf wedi cael rhan wych i chwarae - mae'n eithaf anodd felly yr wyf yn awr i ffwrdd i ymarfer!"
Bydd Sioned yn perfformio yn y Roundhouse yn Llundain ar 10fed o Dachwedd ac yn Neuadd y Dref Birmingham ar y 18fed o Dachwedd
Cyllidir ysgoloriaeth ymchwil Sioned dan Raglen Ysgoloriaeth Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS). Mae KESS yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd o bwys dan arweiniad Prifysgol 黑料不打烊 ar ran y sector AU yng Nghymru. Gan gael budd o Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF), mae KESS yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol (Meistri Ymchwil a PhD), gyda phartneriaid allanol, wedi鈥檜 lleoli yn Ardal Gydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a鈥檙 Cymoedd). Mae elfennau鈥檙 Meistri Ymchwil a PhD wedi鈥檜 cyfuno 芒 rhaglen hyfforddi mewn medrau uchel eu safon, gan arwain ar Gymhwyster 脭l-radd mewn Datblygu Sgiliau. Bydd KESS yn parhau tan 2014, ac yn darparu 400+ o leoedd PhD a Meistr.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2012