Myfyrwraig ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn defnyddio鈥檌 swyddogaeth newydd i ysbrydoli eraill i wneud gwaith gwirfoddol
Mae myfyrwraig ym Mhrifysgol 黑料不打烊, Ashlee Prince, wedi cael ei dewis i arwain Rhwydwaith Arweinwyr Cymunedol Ifanc Points of Light Cymru ar 么l i'w hymroddiad hirdymor i wirfoddoli wneud argraff ar drefnwyr y wobr.
Mae arweinwyr Points of Light yn wirfoddolwyr unigol eithriadol 鈥 pobl sydd yn gwneud newid yn eu cymunedau. Bob dydd o鈥檙 wythnos mae鈥檙 Prif Weinidog yn cydnabod gwirfoddolwr ysbrydoledig gyda'r wobr Daily Point of Light. Mae Points of Light wedi bod yn gweithio gyda phrifysgolion ar draws y DU i recriwtio myfyrwyr sy'n gwirfoddoli sy鈥檔 cael hyfforddiant yn Swyddfa'r Cabinet ac a fydd cyflwyno eu gwaith yn 10, Stryd Downing ym Mehefin 2016.
Mae Ashlee, sy鈥檔 fyfyrwraig Seicoleg yn ei thrydedd flwyddyn, wedi cyffroi oherwydd y cyfleoedd a gaiff drwy fod yn rhan o gynllun Points of Light. Dywedodd 鈥淏yddaf yn defnyddio'r swyddogaeth hon i ysbrydoli pobl eraill i ymwneud 芒 gwirfoddoli a helpu eraill oherwydd credaf ei fod yn beth anhygoel i fod yn rhan ohono". Mae hi eisoes wedi derbyn hyfforddiant yn Swyddfa'r Cabinet ac mae'n edrych ymlaen at fwrw ymlaen gyda鈥檙 swyddogaeth.
Mae Ashlee, 20, o Nantwich yn Swydd Gaer, wedi gwirfoddoli gyda GMB ers ennill lle ar broject poblogaidd Hergest yn ei blwyddyn gyntaf. Mae'n parhau i wirfoddoli yn Uned Hergest, yr uned iechyd meddwl yn Ysbyty Gwynedd, 黑料不打烊, bob wythnos. Yn y flwyddyn academaidd hon, bydd Ashlee hefyd yn arwain gr诺p o 14 o wirfoddolwyr sy'n ymweld 芒'r uned ar nosweithiau Mercher yn ogystal 芒 rhoi o'i hamser i wirfoddoli ar broject yn gweithio yn hostel prawf trwyddedig T欧 Newydd yn Llandygai.
Dywedodd Ashlee: 鈥淯chafbwyntiau Gwirfoddoli Myfyrwyr 黑料不打烊 yw fy mod wedi gwneud cymaint o ffrindiau newydd ac wedi cael profiad o helpu pobl, profiad na fyddwn i byth wedi ei gael yn unman arall. Mae Gwirfoddoli Myfyrwyr 黑料不打烊 wedi fy helpu i fod yn berson gwell drwy helpu pobl eraill a byddwn yn argymell gwneud gwaith gwirfoddol i unrhyw un.鈥
Mae Gwirfoddoli Myfyrwyr 黑料不打烊 yn adran o fewn Undeb y Myfyrwyr sy'n rheoli 35 o wahanol brojectau gwirfoddoli cymunedol ac yn cynnig dros 700 o gyfleoedd i fyfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊 wirfoddoli yn ystod pob blwyddyn academaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2016