Myfyrwyr arwain yn dysgu gan feistr
Catherine Linney yn derbyn cyngor ac adborth gan yr Arweinydd, Owain Arwel Hughes.Roedd yn bleser gan yr groesawu鈥檙 arweinydd byd-enwog (sydd hefyd yn Gymrawd Er Anrhydedd ym Mhrifysgol 黑料不打烊), Owain Arwel Hughes, i Fangor yn ddiweddar, i arwain dosbarth meistr i fyfyrwyr. Cafodd pum myfyriwr lwcus, o fyfyriwr israddedig ym mlwyddyn 1 hyd at fyfyriwr 么l-raddedig blwyddyn olaf, gyfle i arwain tair Dawns Slafonig gan Dvo艡谩k, a hynny dan lygaid barcud Dr Hughes.
Meddai Catherine Linney un o鈥檙 myfyrwyr arwain, 鈥淩oedd Owain Arwel Hughes yn llawn anogaeth, a dangosodd imi sut yr oedd modd i arweinydd reoli ar fwy na thempo yn unig; yr arweinydd sy鈥檔 gyfrifol am yr holl sain!鈥
Roedd Nicholas Hardisty yn un arall o鈥檙 myfyrwyr, ac yntau hefyd yn cyfarwyddo ensemble Cerddoriaeth Gynnar y Brifysgol. 鈥淏u gweithio gydag Owain yn brofiad gwirioneddol wych ac yn agoriad llygad. Gyda
Nicholas Hardisty yn arwain o dan lygaid barcud Owain Arwel Hughes.m芒n newid yn unig o ran ystum weledol, dangosodd imi sut i ffrwyno unrhyw chwaraewyr sydd ar gyfeiliorn 鈥 rhywbeth a fyddai, o鈥檙 blaen, wedi cymryd amser ymarfer ychwanegol imi ei unioni鈥.
Aelodau Cerddorfa Symffoni鈥檙 Brifysgol oedd y testunau arbrawf ar gyfer y digwyddiad, a dysgasant hwythau lawer gan ein harbenigwr gwadd. Roedd y Gerddorfa, sy鈥檔 cynnwys aelodau o鈥檙 gymuned leol yn ogystal 芒 myfyrwyr a staff o鈥檙 Brifysgol yn ei chrynswth, yn arbennig o falch pan gytunodd Dr Hughes i鈥檞 harwain ei hun ar ddiwedd y dosbarth meistr.
Meddai Dr Chris Collins, Pennaeth Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol 黑料不打烊, 鈥淩ydym yn hynod falch o gael budd o garedigrwydd ein Cymrodyr Er Anrhydedd. Mae Owain ymysg yrarweinwyr mwyaf profiadol yn y byd, ac roedd y
Francesca Reader yn gwrando ar adborth gwerthfawr gan Owain Arwel Hughes.gwahaniaeth yng ngallu ein myfyrwyr i arwain yn amlwg ar unwaith!鈥
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2013