Myfyrwyr 黑料不打烊 yn cael llwyddiant yn seremoni gyntaf Gwobrau Nyrs y Flwyddyn
Mae dau fyfyriwr o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol 黑料不打烊 wedi derbyn gwobrau yng Nghaerdydd yn ddiweddar yn y seremoni gyntaf Nyrs y Flwyddyn i鈥檞 chynnal gan y Coleg Nyrsio Brenhinol.
Georgina Hobson
Llwyddodd y ddau i gyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Myfyriwr Nyrsio鈥檙 Flwyddyn, un o 10 gategori a gyflwynwyd i weithwyr gofal iechyd proffesiynol Cymru. Dyfarnwyd Gwobr Myfyriwr Nyrsio鈥檙 Flwyddyn ar gyfer 2013 i Georgina Hobson a daeth Anthony Green yn ail iddi. Derbyniodd Georgina 拢500 yn wobr gyntaf ac Anthony 拢250 yn ail wobr.
Mae'r ddau wedi cwblhau eu hastudiaethau ym Mhrifysgol 黑料不打烊 lle buont yn astudio Nyrsio, gan arbenigo mewn Nyrsio Anableddau Dysgu. Byddant yn graddio fis Gorffennaf 2013.
Dywedodd Dr Malcolm Godwin, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, "Mae hwn yn gamp ardderchog i鈥檔 myfyrwyr a hefyd i Brifysgol 黑料不打烊. Mae'n dangos ymrwymiad ein myfyrwyr a鈥檙 safon ardderchog o addysgu a geir yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd. Does gen i ddim amheuaeth y bydd y ddau fyfyriwr yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r proffesiwn nyrsio a gofal drwy gydol eu gyrfaoedd."
Daw Georgina Hobson o Gyffordd Llandudno ac mae hi bellach yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsy Cadwaladr fel Dadansoddwr Ymddygiad yn y gwasanaeth anghenion cymhleth, sydd wedi鈥檌 leoli ym Mryn y Neuadd, yn Llanfairfechan.
Mae Antony Green o Benmaenmawr yn gweithio fel Swyddog Rhanbarthol ar gyfer MENCAP yn y Gogledd Orllewin.
Anthony Green
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2013