Myfyrwyr 黑料不打烊 yn Cyhoeddi Llyfrau Newydd
Mae'n bleser gan Ysgol Astudiaethau Creadigol a鈥檙 Cyfryngau ym Mhrifysgol 黑料不打烊 gyhoeddi dyddiad cyhoeddi dau ddetholiad, Blue Pencils a SCSM鈥檚 Media Medley.
Mae pedwar myfyriwr yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a鈥檙 Cyfryngau wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd ers pedwar mis i gynhyrchu a chyhoeddi detholiad o weithiau ffuglen byr, gwreiddiol. Mae'r detholiad, Blue Pencils, yn cynnwys gwaith gan awduron o bob cwr o'r byd, yn cynnwys Tiwnisia ac UDA, yn ogystal ag awduron yn y DU. Yn wreiddiol, gofynnwyd am weithiau'n seiliedig ar y thema 'ysbrydoliaeth', ond ers hynny, mae'r gwaith wedi datblygu i fod yn astudiaeth fwy pellgyrhaeddol o ddynoliaeth ar bob lefel o'r dychymyg. Caiff y llyfr ei lansio mewn digwyddiad cyhoeddus ar 26 Mai yn adeilad Pontio, Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Prifysgol 黑料不打烊. Bydd blaengop茂au o Blue Pencils ar gael i'w prynu cyn y lansiad yn siop ar-lein y brifysgol.
鈥淩ydym wedi cynhyrfu鈥檔 l芒n ein bod yn lansio'r detholiad o'r diwedd", meddai Leslie Sextius, Golygydd Marchnata'r gyfrol. "Mae wedi bod yn broject difyr iawn. Rwy'n falch iawn o beth rydym wedi ei gyflawni."
Mae un o'r myfyrwyr sy'n rhan o d卯m Blue Pencils, Charlie Wilson, wedi dechrau project cyhoeddi arall y semester hwn. Mae SCSM鈥檚 Media Medley yn gasgliad o weithiau gan fyfyrwyr hen a newydd y BA Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol. Mae'r gyfrol gyffrous ac amrywiol hon yn cynnwys straeon byrion, sgriptiau, barddoniaeth a thraethodau gan fyfyrwyr a raddiodd yn 2014-2016 a myfyrwyr fydd yn graddio ym mis Gorffennaf eleni. Bydd SCSM鈥檚 Media Medley ar gael o 26 Mehefin.
Meddai Dr Eben Muse, Pennaeth yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a鈥檙 Cyfryngau: "Mae'r t卯m golygyddol o fyfyrwyr, dan oruchwyliaeth Dr Skains, wedi cynllunio a chyhoeddi dwy gyfrol hyfryd sy'n golygu bod ysgrifennu creadigol myfyrwyr 黑料不打烊 ar gael am y tro cyntaf i gynulleidfa fyd-eang." Mae myfyrwyr a staff yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau yn croesawu'r cyhoedd i ddod i lansiad y llyfr ac yn eu gwahodd i ymuno 芒 hwy i ddathlu cyflawniadau'r myfyrwyr hyn.
Bydd y lansiad yn dechrau am 7 o'r gloch yr hwyr, 26 Mai ac mae croeso i bawb. Bydd cop茂au o Blue Pencils ar gael i'w prynu ar y noson a chyhoeddir rhagor o wybodaeth am SCSM鈥檚 Media Medley yn ystod y digwyddiad.
Ceir rhagor o wybodaeth a'r newyddion diweddaraf am Blue Pencils yma. Os hoffech ragor o wybodaeth am y lansiad, cysylltwch 芒 profpublishing@gmail.com.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2017