Myfyrwyr 黑料不打烊 yn ennill C芒n i Gymru
Mae dau gyfaill sy鈥檔 cyd-chwarae mewn band ac yn astudio yn yr un brifysgol newydd ennill gyda ch芒n a gyfansoddwyd wrth iddynt deithio adref o
Bydd Rhys Gwynfor ac Osian Huw Williams fu'n perfformio 'Mynd i Gorwen efo Alys' ar y rhaglen gyda chymorth aelodau eraill eu band, Jessop a'r sgweiri. Maent wedi ennill gwobr o 拢3,500 a'r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr 糯yl Ban Geltaidd yn Iwerddon.
Mae Rhys, 22 oed, yn astudio gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn y Brifysgol ac mae Osian, sydd hefyd yn 22oed, yn ei ail flwyddyn yn astudio
Mae鈥檙 ddau鈥檔 ffrindiau ers eu cyfnod yn Ysgol Uwchradd y Berwyn, (daw Rhys o Glanyrafon ger Corwen ac Osian o Lanuwchllyn ger Y Bala) ac wedi dechrau Jessop a'r Sgweiri ynghyd 芒 thri chyfaill arall yr haf diwethaf. Rhys yw prif leisydd y band, ac mae Osian yn rhannu ei ddoniau cerddorol rhwng y band hwn a'r bandiau eraill Candelas, Siddi a Cowbois Rhos Botwnnog.
Recordiwyd y g芒n ganddynt eu hunain a chewch ar safle鈥檙 rhaglen C芒n i Gymru.
Ysgrifennwyd y rhan fwyaf o鈥檙 g芒n wrth iddynt deithio adre o'r coleg yn y car un prynhawn Mercher. Mae鈥檙 g芒n, 鈥楳ynd i Gorwen efo Alys鈥 mewn arddull traddodiadol '12 bar blues,' ac, fel yr esbonia Rhys,
鈥淵r oedd gan y ddau ohonom syniad da sut g芒n fyddai hon, ond gan mai Osian yw'r cerddor, mae'n debyg mai fo sydd yn bennaf gyfrifol am yr alaw. O ran y geiriau, fe wnaed y gwaith gan y ddau ohonom.鈥
Meddai Osian, 鈥淕an mai '12 bar blues' yw'r g芒n, mae鈥檙 arddull a鈥檙 cordiau wedi cael eu chware ers blynyddoedd maith. Ein bwriad oedd cymryd yr hen arddull a'i foderneiddio ychydig trwy ei drymhau, ond yn bendant, band roc a r么l hen ffasiwn ydan ni!鈥
Dywed y ddau eu bod yn bendant am weithio gyda'i gilydd yn y dyfodol, drwy ysgrifennu mwy o ganeuon i Jessop a'r Sgweiri. Ond ar hyn o bryd, heblaw am gystadlu yn y gystadleuaeth, yr unig fwriad sydd ganddynt yw cwblhau eu cyrsiau a pharhau i ysgrifennu caneuon.
Dewisodd Rhys Gwynfor astudio yn Ysgol y Gymraeg am ei bod yn adran wych ac roedd eisiau manteisio ar y cyfle i astudio rhywbeth sydd o wir ddiddordeb iddo. Meddai Osian Huw Williams, 鈥淢ae dewis gwych o fodiwlau yn yr Ysgol Cerddoriaeth, ac mae 黑料不打烊 yn ddinas fach wych gyda bywyd cymdeithasol arbennig.鈥
Meddai鈥檙 Athro Gerwyn Wiliams o Ysgol y Gymraeg, "Llongyfarchiadau calonnog i Rhys Gwynfor ac Osian Huw Williams ar ennill C芒n i Gymru 2013! Ac yntau'n un o fyfyrwyr y cwrs MA Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg, mae'n wych o beth gweld bod Rhys Gwynfor wedi sianelu ei egn茂on creadigol ac wedi cydweithio efo Osian Huw Williams mor llwyddiannus yn y gystadleuaeth genedlaethol bwysig hon."
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2013