Myfyrwyr 黑料不打烊 yn ennill gwobrau UCM Cymru
O'r chwith: Rhys Taylor (Llywydd, UM 黑料不打烊); Yr Athro John G Hughes (Is-ganghellor); Beth Button (Llywydd, UCM Cymru); Steve Coole (Cyfarwyddwr NUS Cymru); Rhys Dart (Cyfarwyddwr UM 黑料不打烊)Mae鈥檙 gwaith gwych sy鈥檔 cael ei wneud gan Undeb Myfyrwyr 黑料不打烊 wedi cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau UCM Cymru yn ddiweddar. Cyrhaeddodd yr Undeb y rhestr fer ar gyfer chwech allan o'r wyth categori, gan ennill pedwar o'r gwobrau a chadw'r teitl ''Undeb Myfyrwyr y Flwyddyn鈥 am yr ail flwyddyn yn olynol.
Enillodd yr Undeb y teitl Undeb Myfyrwyr y Flwyddyn mewn cydnabyddiaeth o'u gwaith eang yn ystod y flwyddyn mewn meysydd megis cynrychiolaeth academaidd, gweithgareddau myfyrwyr a chynwysoldeb. Cafwyd canmoliaeth arbennig gan yr UCM am eu gwaith ar ymgysylltu 芒'r gymuned a threfnu, gan gyfeirio at 'Bartneriaeth Gymunedol Caru 黑料不打烊' fel enghraifft o ymrwymiad yr Undeb i sicrhau bod myfyrwyr yn aelodau gweithredol o'u cymuned leol, ac nid fel 鈥榯wristiaid academaidd'.
Rhoddwyd y wobr Amrywiaeth i gydnabod gwaith yr Undeb, mewn partneriaeth 芒 rhai o'u grwpiau myfyrwyr, a wnaed ar faterion LGBTQ+ a鈥檙 ymdrechion a wnaed i sicrhau bod eu gweithgareddau a'u gwasanaethau yn apelio at, ac yn adlewyrchu amrywiaeth eu haelodaeth. Ehangwyd yr ymgyrch hon ymhellach yn ystod y digwyddiad Chwaraeon Varsity 2015, lle roedd pob t卯m oedd yn cystadlu yn gwisgo careiau lliwiau鈥檙 enfys i ddangos bod chwaraeon ym Mangor yn amgylchedd croesawgar ar gyfer myfyrwyr LGBTQ+.
Rhoddwyd y wobr Cyfleoedd i Fyfyrwyr i gydnabod llwyddiant y prosiect 'Sesiynau Haf' sy'n rhoi llwybr i mewn i weithgareddau prif ffrwd a chyfranogiad ar gyfer myfyrwyr 么l-raddedig a rhyngwladol.
Hefyd, enillodd yr Undeb y wobr Addysg am eu gwaith ar gynllun cynrychiolwyr cyrsiau, eu datganiad myfyrwyr blynyddol, sydd wedi cael sylw gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd fel enghraifft o arfer gorau cenedlaethol, ac ar gyfer cyfranogiad cynrychiolwyr cwrs mewn archwiliadau ansawdd mewnol yr Ysgolion.
Yn ogystal, daeth Danielle Barnard yn ail yng nghategori Aelod Staff Undeb Myfyrwyr y Flwyddyn am ei gwaith arloesol ac ymroddedig ar gynrychiolaeth academaidd. Cafodd yr Undeb hefyd ganmoliaeth uchel yng nghategori鈥檙 Ymgyrchoedd am y gwaith a wnaed ar y cyd 芒 Chymdeithas 脭l-raddedig y Brifysgol.
Dywedodd yr Athro John G Hughes, Is-Ganghellor: "Mae llwyddiant Undeb y Myfyrwyr wrth ennill y gwobrau hyn yn adlewyrchu鈥檙 gwaith caled y maent yn ei wneud ar ran myfyrwyr y Brifysgol drwy gydol y flwyddyn, ac rydym yn falch iawn o weld y gwaith yma鈥檔 cael ei gydnabod ar lefel cenedlaethol.
"Mae'r Brifysgol yn gweithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod myfyrwyr 黑料不打烊 yn cael profiad gwych yn ystod eu hamser yma. Rwy'n arbennig o falch 芒'r gwobrau hyn gan eu bod yn dilyn blwyddyn ryfeddol i Fangor sydd wedi gweld y Brifysgol yn y safle cyntaf yng Nghymru a'r 14eg yn y DU yn y Times Higher Education Student Experience Survey ac ymysg y 100 prifysgol uchaf yn y byd o ran ei golygwedd ryngwladol"
"Llongyfarchiadau mawr i bawb."
Meddai Rhys Taylor, Llywydd Undeb y Myfyrwyr:
"Rydym yn hynod falch o'n cyflawniadau fel corff myfyrwyr ac fel sefydliad. Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill y gwobrau cenedlaethol hyn. Mae'r rhain yn ychwanegol at gael cydnabyddiaeth gan CCAUC a'r ASA ar gyfer ein gwaith mewn cynrychiolaeth academaidd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ar gyfer gwaith arloesol sy'n arwain y sector.
"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein ffocws wedi bod ar agor ein gwasanaethau i fyfyrwyr, cynrychiolaeth academaidd a arweinir gan fyfyrwyr, a gwella mynediad at weithgareddau allgyrsiol i alluogi myfyrwyr i lunio a gwella eu profiadau myfyrwyr. Mae ennill y gwobrau hyn yn dyst i waith Undeb y Myfyrwyr a'r myfyrwyr sy鈥檔 cymryd rhan mewn gweithgareddau ar draws y sefydliad.
鈥淩ydym wedi sicrhau bod myfyrwyr wrth wraidd cynllunio, datblygu ac adolygu eu haddysg. Rydym wedi cael gwared 芒鈥檙 rhwystrau i gyfranogi drwy gyflwyno clybiau a chymdeithasau sydd am ddim i鈥檞 ymaelodi a chynnal digwyddiadau wedi'u targedu ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol ac 么l-raddedig. Rydym yn ymgyrchu i ddileu homoffobia a thrawsffobia mewn chwaraeon ac rydym wedi arwain ar ymchwil i brofiadau myfyrwyr LGBTQ + o fewn addysg uwch, ac mae ein gwaith ar addysg yn ffurfio cyfeiriad polisi a datblygiad y Brifysgol bob blwyddyn academaidd."
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2015