Myfyrwyr newydd yn cael llwybrau i鈥檙 ddinas
Mae Penwythnos Croeso鈥檙 Brifysgol arnom unwaith eto - sef 21-22 Medi eleni, ac y mae staff ac Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol yn paratoi i groesawu myfyrwyr newydd i Fangor. Oherwydd hyn disgwylir i drafnidiaeth fod yn drymach ym Mangor dros y penwythnos gydag tua 2,000 o fyfyrwyr a鈥檜 rhieni yn cyrraedd Neuaddau Preswyl y Brifysgol.
Er mwyn lleddfu'r tagfeydd traffig, mae'r Brifysgol yn rhannu derbyniadau dros y ddau ddiwrnod y penwythnos i leihau ar rai o鈥檙 problemau trafnidiaeth. Golyga hyn y gall fod y traffig yn drymach na鈥檙 arfer drwy鈥檙 penwythnos.
Mae llwybr coch yw arwain heibio鈥檙 dref o gylchfan Llandygai / Llys y Gwynt a'r llwybr glas yn dod oddi ar yr A55 ger Parc Menai, ac yna ar hyd Ffordd Caergybi i Fangor Uchaf. Efallai yr hoffai pobol leol cadw hyn mewn cof wrth gynllunio鈥檜 teithiau o amgylch y ddinas, gan fod traffig yn cael ei disgwyl i fod yn brysur.
"Mae'r defnydd o'r llwybr glas yn sicrhau llai o darfu ar draffig yn y ddinas ddydd Sadwrn, gan ein bod yn rhannu鈥檙 niferoedd sy鈥檔 cyrraedd y Brifysgol dros y deuddydd gan sicrhau mai dydd Sul yw鈥檙 diwrnod prysuraf," eglura Ken Griffith, Pennaeth Neuaddau Preswyl a Phennaeth Warden Prifysgol 黑料不打烊.
Wrth i'r myfyrwyr newydd yn cyrraedd yn eu Neuaddau, byddant yn cael eu croesawu gan eu Warden Neuadd, a fydd yn gyfrifol am eu gofal bugeiliol yn ystod y flwyddyn. Hefyd wrth law i roi cymorth i鈥檙 myfyrwyr newydd, fel y maent yn setlo i fywyd Prifysgol ym Mangor, fydd 'Arweinwyr Cyfoed'. Myfyriwr ail a thrydedd flwyddyn yw'r rhain, sydd wedi鈥檜 hyfforddi ar gyfer y r么l. Efallai y byddwch yn eu gweld o gwmpas yn gwisgo鈥檜 crysau T llachar yn ystod yr wythnosau nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2013