Myfyrwyr o ogledd Cymru鈥檔 dod yn hyrwyddwyr busnes
T卯m buddugol: Ysgol Y BerwynCynhaliodd Ysgol Busnes Prifysgol 黑料不打烊 ddigwyddiad ar y cyd 芒 Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW) yn ddiweddar lle cafodd myfyrwyr chweched dosbarth weithio gyda'i gilydd ar her fusnes gyffrous.
Deuai鈥檙 myfyrwyr o bob cwr o ogledd Cymru a buont yn gweithio mewn timau yn chwarae rhan t卯m cynghori busnes yn gweithio i gwmni gwasanaethau proffesiynol llwyddiannus ffuglennol. Buont yn gweithio gyda'i gilydd i ddadansoddi cryfderau a gwendidau鈥檙 busnes yn yr amgylchedd economaidd a chymdeithasol sydd ohoni. Fe lunion nhw hefyd nifer o strategaethau i ymdrin 芒鈥檙 bygythiadau a'r cyfleoedd posibl. Cyflwynodd y timau eu strategaethau i banel o feirniaid a oedd yn cynnwys cyfrifwyr sy鈥檔 gweithio yn y diwydiant.
Yn ystod y digwyddiad, cafodd y timau eu mentora gan fyfyrwyr o鈥檙 drydedd flwyddyn neu gan fyfyrwyr 么l-radd o鈥檙 Ysgol Fusnes.
Dywedodd Sara Closs-Davies, sy鈥檔 Ddarlithydd mewn Cyfrifeg yn yr Ysgol Fusnes i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: "Roedd hwn yn gyfle unigryw a chyffrous i鈥檙 myfyrwyr weithio ar broblemau ymarferol ac ymdrin 芒 materion y mae busnesau go iawn yn eu hwynebu yn yr hinsawdd sydd ohoni.鈥
"Yn Ysgol Busnes 黑料不打烊, rydan ni鈥檔 angerddol yngl欧n 芒 datblygu sgiliau cyflogadwyedd a gwybodaeth ein myfyrwyr i鈥檞 paratoi nhw ar gyfer gyrfa lewyrchus a sefydlog ar 么l graddio. Oherwydd bod ffocws ar gyflogadwyedd, ac oherwydd ein bod yn cynnig safon rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil, mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr yn llwyddo i gael gwaith proffesiynol yn syth ar 么l graddio. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr ac roedd yn hyfryd gweld y fath amrywiaeth o fyfyrwyr talentog a brwdfrydig yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu eu sgiliau."
Roedd y t卯m buddugol o Ysgol y Berwyn, Y Bala; dywedodd eu hathrawes Sharon Jones: "Roedd hwn yn gyfle gwych i鈥檔 myfyrwyr ac rydan ni鈥檔 ddiolchgar iawn i Brifysgol 黑料不打烊 ac i ICAEW am drefnu'r digwyddiad."
Dywedodd Rebecca Crowther o ICAEW: "Roedd hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr blwyddyn 12 o bob rhan o ogledd Cymru gael cipolwg ar fyd cyfrifeg, cyllid a busnes, a chael cyfarfod ag arbenigwyr y diwydiant a datblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol ar gyfer y dyfodol. Roedd ICAEW wrth ein boddau鈥檔 gweithio gydag Ysgol Fusnes Prifysgol 黑料不打烊 ar y digwyddiad a chael cyfarfod ag unigolion ifanc talentog a allai fod yn arweinwyr busnes y genhedlaeth nesaf."
Yr ysgolion a gymerodd ran oedd - Ysgol y Berwyn, Ymddiriedolaeth Ysgol St Gerard (ail), Ysgol Uwchradd Prestatyn, Ysgol Rydal Penrhos, Ysgol Syr Hugh Owen, Ysgol Uwchradd Bodedern, Ysgol Friars ac Ysgol Eirias.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2016