Myfyrwyr rhyngwladol yn troi鈥檔 wyrdd- Glanhau鈥檙 Traeth 2018
Y myfyrwyr rhyngwladol a aeth i GriciethBu t卯m o 50 o fyfyrwyr o bob cwr o鈥檙 byd yn glanhau鈥檙 traeth yng Nghricieth yn ddiweddar. Trefnwyd y fenter gan Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol Prifysgol 黑料不打烊 ar y cyd efo Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, fel rhan o broject cynaliadwyedd y Swyddfa Ryngwladol.
Ychydig wyddent fod cymaint o blastig yn eu disgwyl ar draeth mor enwog a hardd. Aeth y myfyrwyr, yn ystod eu hamser hamdden, i ben pella鈥檙 traeth gyda鈥檜 bagiau bin, gefelau codi a thunelli o frwdfrydedd.
Mewn dwy awr roedd y myfyrwyr wedi hel llond 26 bag mawr o sbwriel, gan gynnwys pob dim o boteli plastig i g锚r pysgota a chaniau. Dim ots pa mor galed yr oeddynt yn gweithio, roedd yn amhosib cael y traeth yn hollol l芒n o blastig.
Y rheswm? Gorddefnydd o blastig a ddefnyddir unwaith-yn-unig. Mae sbwriel a gwastraff wedi dod yn broblem fyd-eang yn y degawd diwethaf, gan fygwth ecosystemau cyfan yn ogystal ag iechyd a lles dynoliaeth. Mae鈥檙 plastig yn mynd i mewn i鈥檙 gadwyn fwyd wrth iddo dorri鈥檔 ddafnau micro, a thrwy hyn, cyrraedd ein pl芒t bwyd. Nid problem i ddyfroedd pell mo hyn, mae鈥檔 broblem i鈥檔 dyfroedd ninnau hefyd.
Rhai o'r gwirfoddolwyr brwdfrydig, gyda Ruth Fernandes yn y canol.Dywedodd Ruth Gabriella Fernandes, sy鈥檔 astudio am radd BSc mewn Seicoleg Glinigol ac Iechyd, ac sy鈥檔 hanu o Bortiwgal:
鈥淩oedd Glanhau鈥檙 Traeth yng Nghricieth yn agoriad llygad. O bell, roedd y traeth yn edrych yn eithaf gl芒n a hardd, ond wrth edrych yn agosach ymysg y chwyn, roedd y rhan fwyaf o鈥檙 sbwriel yn ddarnau m芒n o blastig.鈥 Dau o鈥檙 eitemau mwyaf cyffredin ymysg y sbwriel oedd topiau poteli a, choeliwch neu beidio, ffyn bach glanhau clustiau. Casglwyd cannoedd o鈥檙 coesau plastig bydiau clust a olchwyd i鈥檙 traeth mewn un bore yng Nghricieth, a dim ond oherwydd nad oedd pobol wedi eu taflu i鈥檙 sbwriel cywir.
鈥淔e wnaeth y nifer enfawr o鈥檙 ffyn hyn y daethom ar eu traws ar y traeth wneud i mi werthfawrogi sut y gall camgymeriadau syml dros sbwriel yn yr ystafell ymolchi, droi鈥檔 fygythiad i ecosystemau m么r rhai milltiroedd ffwrdd,鈥 meddai Gracious Ali, myfyrwraig o Malawi sy鈥檔 astudio gradd MSc mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd.
Mae gr诺p o fyfyrwyr yn ymgyrchu i wneud 黑料不打烊 y ddinas ddi-blastig gyntaf ym Mhrydain, a gall pob un ohonom wneud ein rhan i warchod yr amgylchedd.
Esiampl o'r sbwriel ar y traeth.鈥淧eidio 芒 defnyddio plastig yw鈥檙 ffordd orau i beidio 芒 llygru ein cefnforoedd. Os nad ydym yn medru osgoi defnyddio plastig, yna dylech ailgylchu ac ail ddefnyddio eich poteli, osgoi gollwng eich bydiau clust yn y toiled ac osgoi defnyddio gwelltyn yn eich diod!鈥 meddai Ruth fel yr oedd yn llwytho bagiau ysbwriel wedi bore o wirfoddoli.
Mae modd i ni wneud gwahaniaeth, a tydi hi ddim yn rhy hwyr. Gan wneud newidiadau bychain i鈥檔 bywydau a鈥檔 hymddygiad pob dydd, mae鈥檔 bosib sicrhau amgylchedd glanach a fydd yn well ac yn fwy diogel i ni ac i鈥檙 cenedlaethau nesaf. Fodd bynnag, mae hyn yn awgrymu gwneud ymdrech tuag at ddyfodol gwell.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2018