Myfyrwyr Seicoleg 黑料不打烊 yn ennill yr ail wobr mewn cystadleuaeth cyflwyno syniadau yng Nghaerdydd
Chwith i dde mae鈥檙 holl gystadleuwyr o鈥檙 Ysgol Seicoleg: James Gilespie, Bryan Walls, James Gudgeon, Jamie Muir, William Morgan a Manuel Calatrava ConesaTeithiodd dau d卯m o fyfyrwyr Meistr Seicoleg Defnyddwyr i Gaerdydd yn ddiweddar i gystadlu yng nghystadleuaeth "Brolio" Sefydliad Marchnata Siartredig. Y timau oedd: "The Three Marketeers" (Jamie Muir, Will Morgan, Manuel Calatrava Conesa) a "The National Thrust" (James Gudgeon, James Gillespie, Bryan Walls). Cafodd bob t卯m dri munud ac wyth sleid i fynd i'r afael 芒 her farchnata a osodwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: "Sut y gallwn ni gael mwy o bobl 16-25 oed i wirfoddoli?" Roedd y beirniaid yn llawn canmoliaeth am wybodaeth fanwl y timau o Fangor gan eu bod wedi defnyddio'r ddealltwriaeth ddofn o seicoleg defnyddwyr y maent wedi ei dysgu yn ystod eu hastudiaethau. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gofyn i'r "Three Marketeers" am ragor o amser ymgynghori ar 么l y digwyddiad a dewiswyd y t卯m arall o Fangor, "The National Thrust" i fod yn un o'r tri th卯m i fynd ymlaen i gyflwyno eu syniadau yn y rownd derfynol yn adeilad y Senedd.
Rhoddwyd cyflwyniad gwych gan y "National Thrust" ond yn anffodus daethant yn ail i d卯m o Abertawe. Pe baent wedi ennill, hon fyddai'r ail flwyddyn yn olynol i d卯m o adran Seicoleg, 黑料不打烊 ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth a fyddai wedi bod yn amseru da gan fod yr adran yn dathlu ei hanner canmlwyddiant eleni. Meddai James Gudgeon o'r t卯m a ddaeth yn ail, "Roedd y digwyddiad Brolio yn gyfle gwych i mi ddefnyddio'r sgiliau rwyf wedi eu dysgu ar y cwrs meistr Seicoleg Defnyddwyr mewn amgylchedd cystadleuol. Roedd cyrraedd y rownd derfynol yn brofiad gwych ac yn sicr o fod o fantais pan fyddaf yn ceisio am waith yn y dyfodol." Ategwyd hyn gan Bryan Wells, "Byddwn yn argymell unrhyw fyfyriwr, waeth beth maent yn ei astudio ac os ydynt yn fyfyrwyr isradd neu 么l-radd, i gystadlu yn Brolio. Mae'n gyfle i ddysgu llawer o sgiliau gwerthfawr yn ogystal 芒 chael llawer o hwyl a gallwch gael rhywbeth gwerth chweil i'w roi ar eich CV."
Cwith -dde: James Gudgeon, James Gilespie and Bryan Walls aelodau'r Tim ( efo to bach ar yr i) a fu'n 'Brolio' yn y Senedd. Credyd llun Sefydliad Marchnata Siartredig Meddai Dr James Intriligator (arweinydd academaidd y t卯m ac uwch ddarlithydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol 黑料不打烊), "Roeddwn yn andros o falch o ba mor dda y perfformiodd ein timau: roedd eu syniadau yn wirioneddol arloesol a gwnaethant eu cyflwyno'n wych. Yn ddi-os bydd y profiad hwn yn un gwerthfawr iawn i鈥檞 roi ar eu CVs ac yn gwella cyflogadwyedd pawb a gymerodd ran."
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2013