Myfyrwyr TOP yn mwynhau dysgu ieithoedd
Yn ystod mis Gorffennaf cynhaliodd gr诺p o fyfyrwyr 么l-raddedig o'r Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol 黑料不打烊 sesiynau i ysgolion a fu鈥檔 cymryd rhan yn Rhaglen Dawn a Chyfle鈥檙 Brifysgol. Yr ysgolion uwchradd a ddaeth i Fangor i gymryd rhan oedd: Ysgol Bryn Elian, Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Uwchradd Treffynnon, Ysgol Dyffryn Ogwen ac Ysgol Glan y M么r ac roedd tua 15 o ddisgyblion ym mhob gr诺p. Cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu ffeithiau ieithyddol a gwybod mwy am astudio ieithoedd ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Buont yn cymryd rhan mewn sesiwn blasu dysgu iaith newydd drwy ddysgu rhifau a chwarae bingo. Cawsant gyfle hefyd i gymryd rhan mewn cwis tebyg i 'Who Wants to be a Millionaire?'. Cafodd pawb a ddaeth adnoddau iaith, a ddarperir gan Llwybrau at Ieithoedd ac Ewrop Uniongyrchol, i fynd adref efo nhw. Cafwyd sylwadau cadarnhaol iawn gan yr ysgolion ac roedd yn wych gweld y disgyblion yn frwdfrydig am ddysgu iaith!
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013