Myfyrwyr yn gwirfoddoli i fenter gymdeithasol cefn gwlad
Yn ystod wythnos gyntaf gwyliau'r Pasg, cynhaliodd Gwirfoddoli Myfyrwyr 黑料不打烊 ei ail ddigwyddiad gwirfoddoli preswyl ar gyfer myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊. Treuliodd 21 o fyfyrwyr 黑料不打烊 wythnos yn gweithio yng nghanolfan Felin Uchaf ger Aberdaron ar Benrhyn Ll欧n.
Mae Felin Uchaf yn fenter gymdeithasol cefn gwlad sy'n archwilio ac yn hyrwyddo dulliau o fyw mewn partneriaeth greadigol a chytgord 芒'r amgylchedd. Ers 2004 mae'r elusen wedi bod wrthi'n gweddnewid ffermdy traddodiadol Cymreig a'r tir o'i amgylch yn fenter i ymwelwyr a'r gymuned. Eu nod yw helpu creu a chefnogi busnesau a mentrau gwledig newydd sy'n gydnaws yn amgylcheddol ac yn gwneud defnydd cyfrifol o adnoddau naturiol yr ardal.
Cynorthwyodd gwirfoddolwyr o Brifysgol 黑料不打烊 gyda'r gwaith o ddatblygu adeilad newydd ffr芒m goed a fydd yn gartref i ganolfan ymwelwyr newydd.
Siaradodd Johanna Illers, myfyriwr PhD o Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion, a fu yno'r llynedd hefyd, am y profiad. "Roeddwn yn ddigon ffodus i fynd ar yr wythnos breswyl y llynedd hefyd pan wnaethom gynorthwyo gyda chodi'r ffr芒m goed ar gyfer y ganolfan ymwelwyr newydd. Roedd dychwelyd eleni a helpu gyda'r gwaith o'i orffen yn brofiad anhygoel."
Cyflawnodd y myfyrwyr hefyd amrywiaeth o dasgau rheoli tir fel coedlannu coed helyg a chodi waliau cerrig, plannu a choginio traddodiadol.
Mynegodd Si么n Rowlands, y Swyddog Gwirfoddoli a drefnodd y rhaglen ar ran Gwirfoddoli Myfyrwyr 黑料不打烊 ei werthfawrogiad o gael gweithio gyda th卯m mor amrywiol o wirfoddolwyr. "Mae ein cyfle gwirfoddoli preswyl blynyddol yn apelio i fyfyrwyr o bob cefndir ac yn arbennig i'r rheiny a fydd yn aros ym Mangor dros gyfnod y gwyliau. Roedd yno fyfyrwyr o wahanol ysgolion academaidd, o wahanol wledydd ac ar wahanol gamau yn eu haddysg prifysgol a daeth pawb ynghyd i weithio tuag at achos teilwng iawn. Fedra i ddim disgwyl mynd yn 么l yno!"
Hoffai Gwirfoddoli 黑料不打烊 ddiolch i staff a gwirfoddolwyr Felin Uchaf am eu croeso cynnes ac am eu cyfraniad i'r profiad gwirfoddoli preswyl hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2014