Myfyrwyr yn mentro yn yr Her 拢10
Yn ddiweddar cymerodd myfyrwyr ran mewn Her 拢10 a drefnwyd gan Broject Byddwch yn Fentrus yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Benthycodd myfyrwyr 拢10 yn unigol neu mewn timau bach, a cheisio gwneud cymaint o arian ag y gallent mewn pythefnos mewn ffordd fentrus, er mwyn ennill y wobr gyntaf o 拢200.
Catrin Hughes yn derbyn ei thystysgrif gan Michelle Hamlet, Project Byddwch Fentrus, am ennill y wobr gyntaf yn yr Her 拢10.鈥業nnovative鈥 oedd y t卯m a wnaeth y swm mwyaf o arian, sef 拢515, a chawsant 拢200 yn ychwanegol am eu llwyddiant. Gwnaethpwyd yr elw gan Catrin Hughes, myfyrwyr Busnes israddedig, ac Aaron Toner, myfyriwr israddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer trwy ddefnyddio eu 拢10 i farchnata a hyrwyddo rhaglen ar-lein.
Rhoddwyd gwobr 鈥淧en ac Ysgwyddau Uwchlaw鈥檙 Dyrfa鈥 i鈥檙 t卯m oedd wedi cael y syniad mwyaf
Alex a Sam yn cyflwyno鈥檙 elw i siop elusen Ymchwil Canser ar Stryd Fawr 黑料不打烊.gwreiddiol i godi arian. Fe lwyddodd t卯m 鈥楰eep Calm and Carry On,鈥 sef Alex Dunk a Sam Davies, y ddau鈥檔 fyfyrwyr israddedig yn Ysgol Astudiaethau creadigol o鈥檙 Cyfryngau, i godi 拢96 trwy werthu T卯m Rygbi Prifysgol 黑料不打烊 ar 鈥榦csiwn鈥 ym Mar Uno, mewn digwyddiad cymdeithasol hwyliog i fyfyrwyr. Rhoddwyd yr elw i gyd ganddynt i Cancer Research UK, a chawsant wobr o 拢30 yr un.
Lansiwyd y gystadleuaeth trwy gynnal gweithdy Ffatri Syniadau, dan ofal entrepreneur a siaradwr anogol lleol, Linden Nicholls (perchennog Orakel a First String) sydd hefyd yn Fodel R么l Dynamo. Pwrpas y gweithdy oedd ysbrydoli鈥檙 myfyrwyr oedd yn cymryd rhan i gael ffydd yn eu syniadau eu hunain, ac i feddwl yn fwy creadigol.
Meddai Lowri Owen, Pencampwraig Menter a Chydlynydd Projectau Byddwch yn Fentrus:
鈥淢ae鈥檙 gystadleuaeth hon yn ddull gwerthfawr o alluogi myfyrwyr i ddysgu am fusnes a chreadigrwydd mewn ffordd ymarferol. Mae鈥檙 ffaith bod llawer ohonynt wedi rhoi peth neu鈥檙 cyfan o鈥檜 helw i elusennau a chyrff lleol yn fendith ychwanegol. Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru i gael cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru fydd yn caniat谩u i ni gael arian i gynnal gweithgareddau fel y rhain. Llongyfarchiadau i鈥檙 holl fyfyrwyr a gymerodd ran.鈥
I gael y wybodaeth ddiweddaraf a, ddigwyddiadau Byddwch Fentrus yn y dyfodol, ewch i neu dudalen Facebook Byddwch Fentrus; .
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2011