Myfyrwyr yn trefnu Cynhadledd Cymru a Rhyfel 1914 - 2014
Y myfyrwyr a drefnodd y gynhadledd (Chwith-dde) Peter Davies, Anna Olsson Rost a Martin Hanks.Heddiw (8 Ebrill 2014) mae tri myfyriwr 么l-radd o Prifysgol 黑料不打烊 yn cynnal a fydd yn rhoi golwg newydd ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru ar y pryd ac ar 么l hynny.
Yn yr achlysur, a drefnwyd gan Anna Olsson Rost, Peter Davies a Martin Hanks, bydd academyddion profiadol ac 么l-raddedigion yn dod ynghyd i daflu goleuni ar ymchwil newydd a chyffrous yn ymwneud 芒 phrofiad Cymru o'r rhyfel.
Fel hyn yr eglurodd Peter Davies o Fangor:
"Roeddem yn awyddus i gynnal cynhadledd yn edrych ar effaith rhyfel ar Gymru a'r bywyd Cymreig er 1914. Roedd cofio canmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfle amserol i edrych ar y thema hon. Mae rhyfel wedi chwarae rhan hanfodol yn y modd y datblygodd ac y cynrychiolir hunaniaeth genedlaethol 'Brydeinig'. Nod y gynhadledd hon yw archwilio'r profiad Cymreig ac ystyried i ba raddau y mae rhyfeloedd y ganrif a aeth heibio wedi siapio bywyd, gwleidyddiaeth, hunaniaeth a diwylliant Cymreig."
Ychwanegodd Anna Olsson Rost, myfyriwr o Lanberis:
"Roedd hwn yn gyfle gwych i ni helaethu ein gwybodaeth a dysgu mwy am yr ymchwil sy'n cael ei gwneud yn y maes yma ar hyn o bryd. Roedd yn ffordd dda hefyd o gael profiad o drefnu a chynnal cynhadledd academaidd. Rydym yn gobeithio ein bod wedi trefnu cynhadledd a fydd yn apelio at gynulleidfa eang ac a fydd hefyd yn rhoi awyrgylch gyfeillgar a chefnogol i siaradwyr o wahanol gefndiroedd a phrofiadau i gyflwyno ffrwyth eu hymchwil."
Meddai Martin Hanks, sy'n byw ym Mhenmaenmawr:
"Mae'r ymateb rydym wedi'i gael wedi bod yn galonogol iawn ac rydym yn arbennig o falch o weld amrywiaeth y pynciau a'r meysydd y bydd y cyfranwyr yn ymwneud 芒 nhw." Bydd Martin yn cyflwyno ei ymchwil ei hun ar Undeb Cymru Fydd a'r Pwyllgor Amddiffyn Diwylliant Cymreig yn yr Ail Ryfel Byd.
Bydd y diwrnod yn dechrau gyda chyflwyniad rhagarweiniol ar 'Rhyfel, Cymdeithas a Chymru', ac yna canolbwyntir ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru, yn cynnwys dadansoddiad newydd o wrthwynebiad cydwybodol i'r Rhyfel Mawr yng Nghymru ac ymateb y wladwriaeth i dwf y mudiad Cymreig yn erbyn y rhyfel. Bydd Nia Powell, darlithydd ym Mhrifysgol 黑料不打烊, yn edrych ar y rhan ryfeddol a chwaraewyd gan ddynion o Gymru yn y gwasanaeth cudd cynnar. Yn dilyn hyn ceir disgrifiad treiddgar o greithiau rhyfel ar sosialaeth yng Nghymru.
Yna bydd y gynhadledd yn troi i roi sylw i hanes lleol, gyda chyflwyniadau ar ymchwil bresennol ar blant Ynys M么n yn ystod y Rhyfel Mawr. Rhoddir sylw i lythyrau a anfonwyd gartref gan un o feibion M么n, Hughie Griffith, sy'n disgrifio'i brofiadau yn y rhyfel hwnnw. Yn ogystal, bydd Dr Michael Roberts o'r Ysgol Gwyddorau Eigion yn taflu goleuni newydd a gwahanol ar y Rhyfel Byd Cyntaf wrth s么n sut y gellir defnyddio arolygon sonar o longddrylliadau ar wely'r m么r oddi ar arfordir Cymru i ddibenion archeoleg f么r yn ymwneud 芒'r cyfnod hwnnw.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2014