Mynd ag arbenigedd ffilm Iddewig o Gymru i Efrog Newydd
Mae Nathan Abrams, arbenigwr mewn ffilm a diwylliant Iddewig ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn cyfrannu at ddigwyddiad unigryw yn Efrog Newydd mis Mawrth. Bydd tair ffilm yn cael eu dangos fel rhan o Jewish Tales from Wales (Straeon Iddewig o Gymru) yn Efrog Newydd. Trefnir y digwyddiad gan Lywodraeth Cymru a鈥檙 Amgueddfa Treftadaeth Iddewig gyda chymorth gan Brifysgol 黑料不打烊.
Fel arbenigwr ar ffilmiau Iddewig yn gyffredinol, bydd Dr Nathan Abrams, o Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau yn y Brifysgol, yn arwain trafodaethau a sesiwn holi efo鈥檙 cyfarwyddwyr ar ddiwedd y sgrinio.
Dywedodd: "Mae'n anrhydedd cymryd rhan yn y digwyddiad unigryw, sy鈥檔 cyfuno dau o鈥檓 diddordebau: ffilm Iddewig Cymreig a hanes Iddewig. Dydw i ddim yn credu bod digwyddiad fel hwn wedi鈥檌 gynnal o'r blaen, naill ai yng Nghymru heb s么n am Efrog Newydd! "
Dywedodd yr Athro John Hughes, a fydd hefyd yn cynrychioli Prifysgol 黑料不打烊 yn y digwyddiad pwysig hwn:
"Fel Prifysgol, rydym yn falch iawn o gefnogi'r fenter hon sy鈥檔 edrych ar ddiwylliant Iddewig Cymru a鈥檌 harddangos yn America. Mae鈥檔 gyfle gwych i arddangos yr amrywiaeth arbenigedd diwylliannol sydd gennym ym Mangor. Mae鈥檙 ffaith fod Dr Abrams yn dod 芒 golwg newydd ar dreftadaeth Iddewig i Efrog Newydd, dinas sy鈥檔 adnabyddus am ei threftadaeth Iddewig, i鈥檞 gymeradwyo. Mae Dr Abrams hefyd yn arwain y ffordd yn astudio treftadaeth Iddewig Cymru. "
Cyhoeddiad diweddaraf Dr Abrams yw The New Jew in Film: Exploring Jewishness and Judaism in Contemporary Cinema.
Eglura Dr Abrams: "Mae cymeriadau ffilm Iddewig wedi bodoli bron cyn hired 芒鈥檙 cyfrwng, ond cawsant eu cyfyngu yn aml i wawdluniau neu barod茂au. Ond bu cynnydd mewn ffilmiau am Iddewon o gwmpas y 90au. Dechreuodd cenhedlaeth newydd o wneuthurwyr ffilm, awduron ac actorion Iddewig yn Hollywood a gweddill y byd ddarlunio Iddewon mewn ffyrdd y tu hwnt i'r stereoteipiau arferol. Maent yn portreadu Iddewon anodd, Iddewon ynfyd, Iddewon hoyw a lesbiaidd, cowbois Iddewig, pyncs ac arwyr a hyd yn oed Iddewon yn y gofod. Rwyf wedi archwilio鈥檙 portreadau newydd a newidiol o Iddewon ac Iddewiaeth. Fy mryd i yw dangos sut mae portread o鈥檙 Iddew yn cael ei ddefnyddio i gyfleu hyder neu bryderon am hunaniaeth a hanes Iddewig."
Mae Nathan Abrams yn Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Mae鈥檔 awdur, cydawdur, a golygydd nifer o lyfrau gan gynnwys: Norman Podhoretz and Commentary Magazine: The Rise and Fall of the Neo-Cons; a Caledonian Jews: A Study of Seven Small Communities in Scotland.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2012