Nid Yw Economi Werdd Erioed Wedi Edrych Cystal
Micro-cartref鈥淢ae鈥檔 debygol bod dros draean o dwf economaidd y DU yn 2011-12 wedi dod o fusnesau gwyrdd鈥 meddai adroddiad diweddaraf y CBI. Busnes gwyrdd yw鈥檙 ardal dwf bwysicaf ar gyfer adferiad economaidd Cymru gyda swyddi carbon isel ac amgylcheddol yn tyfu ddwywaith mor gyflym 芒鈥檙 sectorau gweithgynhyrchu a manwerthu. Tra bod cyfradd twf GDP wedi plymio i lawr, mae trosiant yr economi werdd wedi saethu i fyny wrth i fuddsoddiadau mewn projectau carbon isel barhau i dyfu.
Bydd Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd Prifysgol 黑料不打烊 yn cefnogi busnesau lleol sydd eisiau elwa o鈥檙 economi werdd yn eu digwyddiad yng Ngwesty鈥檙 Cei Deganwy ddydd Iau Hydref 4. Bydd Peter Jones OBE, arbenigwr ar effeithlonrwydd adnoddau a chyn-gyfarwyddwr gwasanaethau gwastraff BIFFA yn datgelu mwy am gyfleoedd a sialensiau twf gwyrdd.
Dywedodd: 鈥淥s cawn ni鈥檙 polis茂au a鈥檙 diwydiannau cywir yn eu lle gallwn roi hwb arall eto i鈥檔 GDP gan gyflwyno mwy o swyddi, mwy o gyfoeth a safonau byw uwch 鈥 tra鈥檔 dal i achub y blaned鈥
Bargen Newydd Werdd i Gymru
Ni allai digwyddiad y Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd yn yr hydref fod yn fwy amserol gan ei fod yn cyd-daro 芒 golwg newydd ar yr economi gan bob plaid wleidyddol. Gyda鈥檙 egwyddor o ddatblygiad cynaliadwy wrth galon y llywodraeth a鈥檙 fargen newydd werdd y mae Plaid Cymru newydd ei chyhoeddi, mae鈥檙 polis茂au hyn yn ceisio hybu economi Cymru yn y llefydd iawn.
Mewn araith yng Nghynhadledd Plaid Cymru鈥檔 ddiweddar, dywedodd arweinydd y blaid, Leanne Wood: 鈥淢ae Cymru angen swyddi. Mae mor syml 芒 hynny. Ac mae digonedd o waith angen cael ei wneud. Mae Cymru angen Bargen Newydd. Bargen Newydd Werdd - yn darparu sgiliau, gwaith, gobaith a chyfleoedd i genhedlaeth newydd y mae hawl ganddi i gredu y gall bywyd fod yn well鈥
Bydd cynhyrchu mwy o ynni a rhaglen effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn ffurfio rhan o gynigion am ddyfodol gwyrddach. Mae hyrwyddo鈥檙 economi werdd drwy hybu cyfleoedd economaidd mewn meysydd fel ynni adnewyddadwy ac eco-dwristiaeth wrth galon amcanion y Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd.
鈥淩ydym yn dod 芒 chwmn茂au o Gymru at ei gilydd er mwyn gwireddu cyfleoedd busnes gwyrdd - a hynny鈥檔 fwy amserol nag erioed - nid yw economi werdd erioed wedi edrych cystal!鈥 meddai cyfarwyddwr project cynaladwyedd Prifysgol 黑料不打烊, Stuart Bond.
Bydd cwmn茂au lleol yn rhan fawr o鈥檙 digwyddiad gyda sesiwn Arddangos Cynaladwyedd er mwyn darganfod beth sy鈥檔 digwydd yn yr ardal yn barod. Bydd North Wales Hydro Power ac eco-westy Bryn Bella ymysg yr amrywiaeth eang o gwmn茂au fydd yn rhannu鈥檜 profiadau.
Byw鈥檔 Gynaliadwy: Mae 鈥楧welle鈥 yn swel
Y pensaer Ric FranklandBydd y pensaer arobryn Ric Frankland, y mae ei ficro-gartrefi wedi鈥檜 harddangos yn Greenbuild Expo Manceinion a Grand Designs, Birmingham, hefyd yn bresennol yn y digwyddiad. Bydd yn egluro sut y ceisiodd wneud busnes gwyrdd yn llwyddiant yn yr hinsawdd economaidd bresennol ac yn dweud mwy wrthym am y sialensiau a wynebodd wrth adeiladu鈥檙 prototeip cyntaf o鈥檙 eco-gartref. Mae鈥檙 tai parod yn dangos mai 鈥渂yw鈥檔 fach yw鈥檙 ffordd newydd o fyw鈥檔 fawr鈥 gyda dyluniadau modern cynnil a nodweddion cynaliadwy fel deunydd insiwleiddio wedi鈥檌 wneud 100% o bapurau newydd wedi鈥檜 hailgylchu, ffenestri gwydrau dwbl a鈥檙 gallu i ennill statws di-garbon
Yr economi werdd a鈥檙 dyfodol
Bydd gofyn i ni wneud pethau鈥檔 wahanol er mwyn tynnu鈥檔 hunain allan o鈥檙 dirwasgiad hwn. Mae鈥檙 mantra nawr yn wyrdd ac mae hyn yn berthnasol i鈥檙 economi hefyd. Gall gweithio gyda phrojectau fel y Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd helpu cwmn茂au i gael y gorau ar felan y dirwasgiad a datblygu dyfodol sy鈥檔 gynaliadwy i bawb. Ewch i flaen y gad a logiwch i mewn i greeninnovationnetwork.org er mwyn darganfod mwy.
Dydd Iau Hydref 4, 15:30 鈥 18-45, Cysylltwch 芒 s.francis@bangor.ac.uk i archebu lle
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2012