鈥淣ofel epig鈥 ar Restr Fer Gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2019
Mae nofel sydd wedi ei disgrifio gan un beirniad cyfoes fel 鈥渘ofel epig...afon o stori sy鈥檔 llifo fel bywyd ei hun鈥 wedi cyrraedd rhestr fer un o wobrau Llyfr y Flwyddyn 2019.
Mae Ynys Fadog gan Yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor ac Athro yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, yn adrodd canrif a mwy o hanes teulu Cymraeg a adawodd Gymru am 鈥榶r Amerig鈥 a鈥檜 hymdrechion i ganfod bywyd gwell mewn oes o newid cythyryblus. Mae鈥檙 nofel swmpus wedi cyrraedd rhestr fer y Wobr Ffuglen, gan rannu鈥檙 gofod 芒 Llyfr Glas Nebo (Manon Steffan Ros) ac Esgryn (Heiddwen Tomos).
Mae鈥檙 gwobrau blynyddol yn cael eu cynnal gan Llenyddiaeth Cymru ac yn cydnabod a dathlu gweithiau yn Gymraeg ac yn Saesneg gan awduron profiadol a newydd fel ei gilydd. Mae holl ystod meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol yn cael eu cwmpasu o fewn tri chategori yn y ddwy iaith: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.
Mae鈥檙 Brifysgol wedi ei chynrychioli鈥檔 dda yn y gwobrau yn y blynyddoedd diweddar. Yn 2017, cipiodd Alys Conran, darlithydd yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth, gyfanswm o dair gwobr am ei nofel gyntaf, Pidgeon ac y llynedd, dyfarnwyd gwobr Barn y Bobl i鈥檙 Athro Peredur Lynch, o Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, am ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Caeth a Rhydd. Gan gadarnhau enw da Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd fel bod ar flaen y gad ym maes ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol gyfoes, mae鈥檙 Athro Gerwyn Wiliams a鈥檙 Athro Angharad Price ill dau wedi ennill gwobrau Llyfr y Flwyddyn yn y gorffennol.
Ar ben hyn, mae鈥檙 Athro Hunter hefyd yn gyn-enillydd, pan gipiodd ei gyfrol ffeithiol ar hanes Cymry Rhyfel Cartref America, Llwch Cenhedloedd, wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2004.
Wrth ymateb i鈥檙 newyddion fod Ynys Fadog wedi cyrraedd rhestr fer y Wobr Ffuglen, meddai鈥檙 Athro Hunter:
鈥淢ae鈥檔 anrhydedd cyrraedd y rhestr fer hon, yn enwedig o gofio cyfoeth a bwrlwm diwylliant llenyddol y Gymru gyfoes.鈥
Caiff enillwyr y gwobrau eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar nos Iau, 20 Mehefin.
Am ragor o wybodaeth am Wobr Llyfr y Flwyddyn, ewch i:
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2019