Nofel gyntaf yn ennill gwobr a doethuriaeth
Mae nofel a ysgrifennwyd fel rhan o gwrs ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol 黑料不打烊 wedi cael ei chyhoeddi ac wedi ennill gwobr Shortlist Award, 2014 i鈥檙 awdur newydd, Rhian Waller.
Ysgrifennwyd nofel gyntaf Rhian, , fel rhan o ddoethuriaeth Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol yn Prifysgol 黑料不打烊.
Mae'r nofel yn dilyn taith merch ifanc sy'n dianc rhag trais yn y cartref ac yn mynd yn syth i berthynas fetaffisegol sy'n herio鈥檙 cymeriad canolog, sef Eithe, i ddarganfod ei chryfderau a chyfeiriad ei bywyd.
Yn gyfoeth o realaeth hudol, mae Eithe鈥檚 Way eisoes wedi cael clod gan feirniaid. Roedd y beirniaid yn canmol arddull bendigedig Waller a'i gallu i greu tensiwn amlwg a rhagargoel yn y naratif.
Dywedodd Lorna Howarth, un o鈥檙 golygyddion a sefydlodd The Write Factor, "Mae gan Waller ddawn aeddfed sy'n cuddio鈥檌 hieuenctid. Mae hi'n ysgrifennu gyda doethineb mawr ac mae ganddi ffordd o drin geiriau sy'n gwneud i rywun obeithio mai dyma'r gyntaf o nifer o nofelau mawrion y bydd yn eu hysgrifennu."
Dywedodd Ian Gregson, Athro a Chyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol 黑料不打烊, ac awdur Not Tonight Neil (Cinnamon, 2011), "Mae dyfais 'Mirror Man' Rhian Waller yn wych ac ymysg y delweddau meta ffuglennol gorau mewn llenyddiaeth gyfoes."
Ymateb Rhian Waller i ennill y wobr oedd syndod a llawenydd. Dywedodd "Mae geiriau yn ein galluogi i neidio i fydoedd eraill ac rwyf wedi bod yn mwynhau'r broses honno ers oeddwn yn ifanc iawn. Mae Eithe鈥檚 Way wedi fy ngalluogi i greu fy myd fy hun y gall pobl eraill ymweld ag ef hefyd bellach, diolch i鈥檙 wobr hon."
Meddai Rhian, sydd ar fin derbyn ei doethuriaeth:
"Astudiais Lenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol i鈥檓 gradd gyntaf ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Roeddwn yn falch eu bod wedi derbyn fy nghais, gan mai 黑料不打烊 oedd yr unig brifysgol yr oeddwn wedi gwneud cais iddi a oedd yn cynnig ysgrifennu creadigol fel rhan bwysig o'r radd, yn hytrach na dim ond fel modiwl dewisol. "
"Roedd fy mhwyslais ar lenyddiaeth, ar y dechrau, ond sylweddolais fy mod yn llwyr ymgolli yn rhan ysgrifennu creadigol y cwrs, yn enwedig gydag awduron fel Zo毛 Skoulding ac Ian Gregson yn arwain y seminarau."
Enillodd Rhian radd anrhydedd dosbarth cyntaf a Gwobr John Danby am y canlyniad gorau yn yr Ysgol Saesneg yn 2007. Wedi graddio, treuliodd amser yn teithio yn Ewrop ac yn gweithio mewn swyddi gwirfoddol ym maes ecoleg, cyn clywed am y ddoethuriaeth.
Astudiodd Rhian am ei doethuriaeth wrth hyfforddi fel newyddiadurwr, a鈥檌 chwblhau wrth weithio鈥檔 llawn-amser, er na fyddai'n argymell i eraill wneud hynny.
Mae Rhian Waller yn 29 mlwydd oed ac yn byw yn yr Wyddgrug. Er iddi gael ei geni yn Grimsby, mae wedi treulio y rhan fwyaf o鈥檌 hoes yn byw yng ngogledd Cymru. Mae hi鈥檔 ddarlithydd rhan-amser mewn sefydliad addysg bellach.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mehefin 2014