O Mumbai i Barc Gwyddoniaeth Menai
Mae myfyrwyr rhyngwladol o Brifysgol 黑料不打烊, Nebu George, wedi cael ei benodi'n intern archaeoleg . Derbyniwyd caniat芒d cynllunio amlinellol yn ddiweddar ar gyfer M-SPARC, parc gwyddoniaeth yng Ngaerwen ar Ynys M么n, ac mae'r arolwg archeolegol yn rhan o'r amodau ar gyfer caniat芒d cynllunio llawn.
Nod y prosiect, a fydd yn derbyn cyllid o 拢10 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yw creu economi clwstwr unigryw i annog diwydiant uwch-dechnoleg a phartneriaethau ymchwil gwyddonol yng ngogledd-orllewin Cymru. Hefyd mae鈥檙 prosiect yn gwneud cais am gyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Yn wreiddiol o Mumbai, India, mae Nebu, 26, yn ei 2il flwyddyn o radd BA (Anrh.) Archaeoleg a chafodd ei ddewis fel rhan o Gynllun Interniaeth Israddedig Prifysgol 黑料不打烊, a weinyddir gan y t卯m Gwobr Cyflogadwyedd 黑料不打烊 (GCB), Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.
Fel rhan o'i 150-oriau o waith, prif dasgau Nebu fydd cwblhau arolwg ffotograffig o'r adeiladau presennol ar y safle, yn ogystal 芒 chwarae rhan fel aelod o'r t卯m a fydd yn cynnal astudiaethau archeolegol ar y safle.
Dywedodd Nebu George, "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i weithio ar y prosiect. Un o'r rhesymau dewisais astudio ym Mhrifysgol 黑料不打烊 oedd y cyfoeth o safleoedd archeolegol gerllaw. Mae'r prosiect hwn yn wahanol iawn i'r gloddfa arferol a gallwch ddarllen yr holl lyfrau yn y byd, ond nid oes unrhyw beth i gymharu 芒 phrofiad ymarferol o archaeoleg ar waith."
Dywedodd cyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai, Ieuan Wyn Jones, "Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Nebu ar yr arolwg archeolegol gan fod ei waith yn cyfrannu at ddatblygiad y parc."
Mae gweledigaeth M-SParc ar gyfer cyfnod o 30 mlynedd yn seiliedig ar greu cyfleoedd cyflogaeth hirdymor hyfedr i bobl leol, gan ddatblygu amgylchedd o rannu gwybodaeth a chreu canolbwynt economaidd mewn sectorau megis carbon isel, ynni a鈥檙 amgylchedd a TGCh. Byddai鈥檙 parc gwyddoniaeth yn creu pont rhwng cwmn茂au o鈥檙 fath a Phrifysgol 黑料不打烊, sef perchnogion M-SParc.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mehefin 2015