Oes Aur Canu Pop Cymraeg
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn arddangos dros 300 mlwyddyn o ddiwydiant ac arloesi, a bydd arddangosfa鈥檙 flwyddyn nesaf (2013) yn rhoi sylw i ddiwydiant o bwys, er efallai un nad yw mor amlwg i bawb ar yr olwg gyntaf.
Mae Hannah Way, sy鈥檔 byw ar hyn o bryd yn Nhalysarn, yn ymchwilio 鈥極es Aur鈥 pop Cymraeg ar ran yr Amgueddfa. Mae hi鈥檔 ymchwilio i effaith labeli annibynnol ar y sin bop Gymraeg ac effaith y cyfryngau newydd ar y rhai hynny sydd wedi goroesi.
Dyna rai o鈥檙 cwestiynau mae Hannah yn eu gofyn wrth iddi holi rhai o 鈥榟oelion wyth鈥 y sin roc a phop Cymraeg yn ystod yr 80au a鈥檙 90au. Mae Hannah鈥檔 cael ei chefnogi gan Ysgoloriaeth Cynllun KESS (Ysgoloriaethau Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth) yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol gyda phartneriaid allanol, wedi鈥檜 lleoli yng Ngorllewin Cymru a鈥檙 Cymoedd. Gan ddefnyddio arian Ewropeaidd bydd yr Ysgoloriaeth KESS yn arwain at Radd Meistr drwy ymchwil a darparu'r sgiliau a'r profiad i Hannah fedru gweithio yn y maes ar 么l cwblhau ei hastudiaethau.
Daw Hannah, sy鈥檔 22 oed, o Nelson yn wreiddiol. Graddiodd hi'r llynedd yn y Gymraeg o Brifysgol 黑料不打烊. Mae Hannah鈥檔 gweithio o dan oruchwyliaeth Dr Pwyll ap Si么n a Dr Craig Owen Jones, darlithwyr yn , ac arbenigwyr ar y sin roc a phop yng Nghymru.
Meddai Dr Craig Owen Jones: 鈥淔frwydrodd y sin yng Nghymru gyda nifer fawr o labeli annibynnol a stiwdios bychain yn cael eu creu a鈥檜 hagor yn ystod y cyfnod. Roedd hyn yn fodd i nifer o fandiau a grwpiau gael mynediad at dechnoleg recordio ac i rannu鈥檜 cerddoriaeth efo cynulleidfaoedd newydd. Ers hynny mae chwyldro wedi bod mewn cyfrifiaduro a鈥檌 ddefnydd ar gyfer cyfryngau torfol wrth gwrs. Gellid ystyried y cyfryngau newydd fel bygythiad i鈥檙 diwydiant cyhoeddi, wrth gwrs, ond maent hefyd yn cynnig cyfrwng newydd i rannu cerddoriaeth efo pobl. Mae rhan o waith Hannah鈥檔 cynnwys holi鈥檙 labeli am y defnydd maent yn ei wneud o鈥檙 cyfryngau newydd er mwyn hybu鈥檜 cynnyrch yn ogystal 芒 sut maent yn effeithio ar eu busnes.鈥
Meddai Ian Smith, Curadur Diwydiant Modern a Chyfoes yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: 鈥淲rth feddwl am ein diwydiannau hanesyddol, rydym yn naturiol yn tueddu i feddwl am oes y diwydiannau trwm, fel glo a dur, ond mae gennym draddodiad o arloesi a menter mewn meysydd tra gwahanol.鈥
鈥淏ydd yr arddangosfa 鈥極es Aur Canu Pop鈥 yn talu teyrnged i ddiwydiant cerddorol Cymru ac yn ymchwilio i rai o鈥檙 diwylliannau a鈥檙 traddodiadau sydd ynghlwm wrthi.鈥
Esboniodd Hannah fod 鈥測 project a鈥檙 cyfle i ymchwilio鈥檔 ddyfnach i hanes pop Cymraeg yn apelio鈥檔 fawr i mi. Fel un sy鈥檔 dod o deulu di-Gymraeg, doeddwn i ddim yn sylweddoli fod y sin roc a phop yng Nghymru mor fawr nes dod i Brifysgol 黑料不打烊 a phrofi鈥檙 bywyd myfyrwyr Cymraeg yma. Roedd hyn yn cynnwys mynd i gigs a nosweithiau Clwb Cymru ag ati. Roedd yr holl gefndir yn weddol newydd i mi ar yn agoriad llygad.鈥
鈥淔y man cychwyn yw cysylltu efo鈥檙 unigolion y tu 么l i labeli ac artistiaid yr 80au a鈥檙 90au er mwyn trafod y diwydiant ar y pryd. Rwyf wedi cwrdd 芒 Dafydd Iwan ac yn cwrdd yn fuan 芒 Steffan Cravos, aelod blaenllaw o鈥檙 sin pop tanddaearol yng Nghymru, a Gruff Meredith o Label Tarw Du, ymysg eraill. Hefyd, mae gen i ddiddordeb yn y defnydd a wneir o roc a phop Cymraeg ym myd addysg yng Nghymru: o weithgareddau efo pobol fel Martyn Geraint ar gyfer plant meithrin, trwy nosweithiau鈥檙 Urdd i bobol ifanc ac, wrth gwrs, modiwlau sy鈥檔 cael eu cynnig ym Mhrifysgol 黑料不打烊 sy鈥檔 ymwneud ag agweddau ar bop Cymraeg.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2012