Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd yn ennill gwobr Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd
Rheolwr Project, Stuart Bond yn cyflwyno'r wobr i Stephen Bristow, Rheolwr Gyfarwyddwr Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd.Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd yw enillydd cystadleuaeth a drefnwyd gan y Project Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Roedd nifer o fusnesau wedi llenwi arolwg gan y project ac enw'r Gelli Gyffwrdd ddaeth o'r het i ennill y wobr, sef basged yn llawn o gynnyrch Cymreig hyfryd gan y cwmni anrhegion, Bodlon. Diben yr ymchwil oedd darganfod pa fath yn union o hyfforddiant y mae ar fusnesau ei angen er mwyn elwa ar ddulliau busnes gwyrddach.
Cafwyd ymateb gan ystod o fusnesau ar draws Gogledd Cymru, a鈥檙 prif geisiadau oedd am gefnogaeth ac arweiniad ar farchnata nwyddau neu wasanaethau gwyrdd, a sut i fesur carbon mewn busnesau.
Meddai Stuart Bond, Rheolwr y Project:
鈥淢ae鈥檔 allweddol i鈥檔 llwyddiant ein bod yn darparu鈥檙 hyfforddiant y mae ar fusnesau ei angen mewn gwirionedd er mwyn elwa ar yr economi werdd, gan sicrhau bod eu hanghenion yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud. Mae鈥檙 arolwg yma wedi ein helpu i gael y wybodaeth roeddem ei hangen, a hynny鈥檔 uniongyrchol gan gymuned fusnes Gogledd Cymru, a bydd yn rhan allweddol o鈥檔 rhaglen hyfforddi am y ddwy flynedd nesaf.鈥
Mae Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd wedi derbyn llawer o wobrau, ym maes twristiaeth a鈥檙 amgylchedd, ac yn fwyaf diweddar daeth i鈥檙 brig mewn arolwg fel yr atyniad gorau i deuluoedd yng Ngogledd Cymru.
Meddai Stephen Bristow, Rheolwr Gyfarwyddwr Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd:
鈥淏ob blwyddyn rydym yn gwneud ymdrechion cyson i leihau鈥檙 effeithiau negyddol ar yr amgylchedd ac i hybu鈥檙 cadarnhaol, ond mae yna fwy i鈥檞 ddysgu bob amser. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda鈥檙 Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd, i rannu ein llwyddiannau gyda busnesau eraill a hefyd i ddysgu oddi wrth eraill sut i fod yn fwy cynaliadwy hyd yn oed."
Mae鈥檙 Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd yn un o brojectau Technolegau Arloesi Gwyrdd y Dyfodol, a鈥檌 nod yw bod o fudd i fusnesau a helpu i ddatblygu Economi Werdd drwy ddigwyddiadau rhwydweithio, cyrsiau hyfforddi a phrojectau cydweithredol 芒 busnesau. Mae鈥檔 fenter ar y cyd rhwng Prifysgol 黑料不打烊, University College Dublin a'r Waterford Institute of Technology ac fe鈥檌 cyllidir yn rhannol drwy鈥檙 Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewropeaidd drwy鈥檙 Rhaglen Iwerddon/Cymru.
I gael mwy o wybodaeth am GIFT a digwyddiadau i ddod, ewch i鈥檞 neu ffonio 01248 388387.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012