Parc Gwyddoniaeth yn Cysylltu 芒'r Gymuned
Mae cynllun cyffrous i ddatblygu Parc Gwyddoniaeth ar gyrion Gaerwen yn dod yn ei flaen yn dda. Bydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn y pentref i sicrhau bod y gymuned yn cymryd rhan ac yn llwyr ymwybodol o'r project.
Bydd Parc Gwyddoniaeth Menai, sy鈥檔 is-gwmni i Brifysgol 黑料不打烊, yn gartref i fusnesau a sefydliadau arloesol sy鈥檔 ymwneud 芒 gwyddoniaeth ac sy'n awyddus i ffynnu mewn amrywiol sectorau. Bydd y Parc yn elwa o fuddsoddiadau mewn sectorau megis ynni, gwasanaethau amgylcheddol a thechnoleg l芒n, ond fe groesawir projectau mewn sectorau eraill hefyd. Y nod yw creu a chefnogi swyddi o safon uchel a chyflogau da yn yr ardal.
Bydd rhaglenni allgymorth yn cael eu rhedeg i annog diddordeb plant a phobl ifanc mewn pynciau gwyddonol ac i ddangos pa swyddi gwyddonol sydd ar gael yn y rhanbarth.
"Mae'r project yn llawer mwy nag adeilad" meddai Ieuan Wyn Jones, cyfarwyddwr y Project, "mae'n ymwneud 芒 chefnogi projectau sy鈥檔 gallu creu swyddi cynaliadwy o safon uchel i bobl ifanc y rhanbarth."
Mae'r t卯m project yn awyddus i rannu gwybodaeth am y syniad ac i gasglu sylwadau gan y gymuned. Bydd diwrnod gwybodaeth yn cael ei gynnal yn yr orsaf betrol ar safle Stermat yng Ngaerwen 15:00-19:00 ar 1af o Orffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mehefin 2014