Partneriaeth Ysgol y Gymraeg a鈥檙 Urdd yn mynd o nerth i nerth
John Ogwen a Maureen Rhys yn perfformio rhannau o鈥檙 ddrama Siwan gan Saunders Lewis.Chwaraeodd , Prifysgol 黑料不打烊, ran flaenllaw yn y gwaith o gynnal dau gwrs preswyl llwyddiannus ar gyfer myfyrwyr Cymraeg blynyddoedd 12 a 13 yng Ngwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn yn ddiweddar. Mewn partneriaeth 芒鈥檙 Urdd dyma鈥檙 bedwaredd flwyddyn yn olynol i gyrsiau o鈥檙 fath gael eu trefnu gan yr Ysgol. Ar Dachwedd 19-21 mynychodd myfyrwyr ail iaith gwrs a oedd yn canolbwyntio ar agweddau lu a oedd yn ymwneud 芒鈥檜 hastudiaethau ar gyfer arholiadau Safon U/UG. Cynhaliwyd cwrs cyffelyb ar gyfer myfyrwyr iaith gyntaf ar Dachwedd 21-3. Mynychwyd y ddau gwrs gan 180 o fyfyrwyr U/UG o bob rhan o Gymru.
Rhoddwyd sgyrsiau a darlithoedd gan Dr Jason Walford Davies, Yr Athro Jerry Hunter, Dr Aled Llion Jones, Yr Athro Peredur Lynch, Dr Angharad Price a鈥檙 Athro Gerwyn Wiliams. Cynhaliwyd sesiynau astudio gwerthfawr hefyd gan ddau o fyfyrwyr PhD yr Ysgol, Robat Trefor and Manon Wyn Williams. Cafodd mynychwyr y cwrs hefyd y fraint o wrando ar dri o Gymrodyr Prifysgol 黑料不打烊. Rhoddodd John Ogwen and Maureen Rhys berfformiad gwefreiddiol o rannau o鈥檙 ddrama 鈥楽iwan鈥 gan Saunders Lewis a dangoswyd cyfweliad ffilm dadlennol gyda鈥檙 Athro Emeritws Gwyn Thomas, bardd yr astudir ei waith gan fyfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith.
鈥淵 mae鈥檙 cyrsiau hyn yn ymrwymiad blynyddol mawr ar ein rhan ni yn Ysgol y Gymraeg鈥, meddai鈥檙 Athro Peredur Lynch, Pennaeth y Gymraeg ym Mangor, 鈥渙nd y mae dod i gysylltiad fel hyn 芒 myfyrwyr ysgol a鈥檜 hathrawon yn brofiad eithriadol o fuddiol o safbwynt addysgiadol. Fel Ysgol, y mae gennym hen, hen gysylltiadau 芒鈥檙 Urdd, ac y mae cael y cyfle i gyfrannu i waith y mudiad yn anrhydedd o hyd鈥.
Dywedodd Huw Antur, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd: 鈥淢ae鈥檙 Urdd yn gwerthfawrogi cyfraniad academaidd sylweddol Ysgol y Gymraeg i lwyddiant y cyrsiau hyn ynghyd 芒鈥檙 cydweithredu hael yn y dasg gymhleth o drefnu rhaglen mor eang o weithgareddau. Y mae creu partneriaethau deinamig 芒 chyrff allanol megis Ysgol y Gymraeg a Phrifysgol 黑料不打烊 wedi bod yn allweddol bwysig i鈥檙 Urdd erioed鈥.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2012