Partneriaid yn llofnodi cytundeb y Coleg ar y cyd cyntaf rhwng Cymru a Tsieina
Yr Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol 黑料不打烊 a鈥檙 Athro Xianyan Zhou, Llywydd CSUFT yn llofnodi cytundebau. Gyda hwy mae Dr Xinyu Wu, Cyfarwyddwr Datblygu Rhyngwladol, Prifysgol 黑料不打烊 a鈥檙 Athro Zhiqing Yang, Deon Coleg 黑料不打烊, Tsieina.Mae Prifysgol 黑料不打烊 a'r Central South University of Forestry and Technology (CSUFT) yn Tsieina yn dathlu'r cynllun ar y cyd cyntaf rhwng Cymru a Tsiena i sefydlu Coleg newydd yn Tsieina. Cafwyd seremoni i lofnodi'r cytundeb ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ac yn bresennol roedd Mr David Jones, AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Mr LI Guoqiang, Prif Ysgrifennydd Adran Addysg Llysgenhadaeth Tsieina ym Mhrydain.
Yn y cynllun newydd cyffrous hwn, mae'r ddau sefydliad yn creu coleg rhyngwladol - 'Coleg 黑料不打烊' - a fydd yn cyflwyno cyrsiau yn ninas Changsha, sy'n gartref i 8 miliwn o bobl ac yn brifddinas talaith Hunan.
Wedi dros dair blynedd o waith caled, cafodd cais y ddwy Brifysgol i sefydlu coleg rhyngwladol ar y cyd ei gymeradwyo gan Weinyddiaeth Addysg Tsieina yn Rhagfyr 2013 - dim ond un o ddau gais a gymeradwywyd ym Mhrydain y flwyddyn honno.
Wrth groesawu'r cytundeb newydd yn y cyfarfod lansio ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ar 27 Mai, meddai鈥檙 Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol 黑料不打烊:
"Mae hwn yn gytundeb hanesyddol i'r ddau sefydliad. Mae'n dod ag ansawdd ragorol addysg uwch a ddarperir gan Brifysgol 黑料不打烊 yn nes at fyfyrwyr yn Tsieina ac ar y llaw arall mae'n rhoi cyfleoedd cyffrous i fyfyrwyr ac academyddion 黑料不打烊 i brofi addysg a syniadau yn Tsieina."
Chwith- dde: Mr Guoqiang, Li Prif Ysgrifennydd, Adran Addysg, Llysgenhadaeth Tsieina; Athro Xianyan Zhou, Llywydd CSUFT; Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol, 黑料不打烊; Mr David Jones AS, Ysgrifenydd Gwladol Cymru. Meddai Xianyan Zhou, Llywydd CSUFT: 鈥淢ae sefydliad y coleg ar y cyd yn adlewyrchiad o鈥檙 cyd-weithio llwyddiannus sydd wedi bod rhwng y ddau sefydliad dros y pedair blynedd olaf, a鈥檙 pwysigrwydd cynyddol sydd wedi bod mewn rhyngwladoli addysg yn y Central South University of Forestry & Technology.鈥
Bydd Coleg 黑料不打烊 yn Tsieina yn agor ei ddrysau i 200 o fyfyrwyr Tsieineaidd fis Medi eleni. I ddechrau bydd y Coleg yn cynnig rhaglenni israddedig mewn cyfrifeg, bancio, cyllid a pheirianneg electronig, gyda chynlluniau i ehangu ystod y pynciau i gynnwys meysydd academaidd eraill y mae Prifysgol 黑料不打烊 yn rhagori ynddynt, megis Coedwigaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol, ymhen ychydig flynyddoedd.
Caiff yr holl raglenni eu dysgu a'u hasesu yn Saesneg a byddant yn rhoi profiad addysg uwch tebyg i'r hyn a geir yng ngwledydd Prydain i'r myfyrwyr. Staff profiadol o Brifysgol 黑料不打烊 fydd yn gwneud y gwaith dysgu, yn ogystal 芒 staff rhyngwladol gyda chymwysterau uchel sydd newydd eu penodi. Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i astudio ym Mhrifysgol 黑料不打烊 am flwyddyn neu ddwy. Gallant hefyd wneud y rhaglen gyfan yn Tsieina os dymunant.
Ymhen ychydig flynyddoedd bydd y Coleg yn ehangu i addysgu 2,000 o fyfyrwyr, gan roi cyfleoedd gwirioneddol i Fangor a CSUFT ddatblygu rhaglenni academaidd newydd priodol i anghenion cymdeithasol ac economaidd lleol. Uchelgais dymor hir Prifysgol 黑料不打烊 hefyd yw datblygu'r Coleg yn ganolfan astudio dramor ac ymchwil lle gall myfyrwyr 黑料不打烊 dreulio un neu ddau semester yn astudio ac ymchwilio yn Tsieina.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2014