Pedwar myfyriwr Prifysgol 黑料不打烊 yn cwblhau 100 o gerddi mewn 24 awr
O'r chwith: Caryl, Osian, Manon a MorganAr Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, bu pedwar myfyriwr o Brifysgol 黑料不打烊 yn ymgymryd 芒 her flynyddol Llenyddiaeth Cymru i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr.
Y beirdd eleni oedd Manon Awst, Caryl Bryn, Morgan Owen ac Osian Owen.
Rhwng 12.00 pm brynhawn dydd Iau 4 Hydref a 12.00 pm brynhawn Gwener 5 Hydref yn Llanberis, llwyddodd y pedwar i ysgrifennu cant o gerddi rhyngddynt ar bynciau a ddewiswyd gan y cyhoedd. Gan ddefnyddio鈥檙 hashnod #Her100Cerdd, anfonwyd ceisiadau am gerddi ar bob math o bynciau 鈥 y difyr, difrifol, a鈥檙 doniol.
Cafwyd amrywiaeth arbennig o them芒u a thestunau yng ngherddi鈥檙 pedwar dewr, gan gynnwys cerdd am gath mewn peiriant golchi, cerdd am ardaloedd adnabyddus o bedwar ban byd, moliant i鈥檙 beiro bic ddu, a llu o geisiadau am gerddi cyfarch i dai myfyrwyr newydd ar hyd a lled y wlad.
Cyn iddynt gychwyn ar yr her, soniodd sawl un ohonynt mai鈥檙 hyn oedd yn eu poeni fwyaf oedd na fyddai digon o geisiadau ac awgrymiadau yn eu cyrraedd. Doedd dim angen poeni o gwbl, gan fod 154 o geisiadau unigryw wedi dod i law, a hynny drwy Twitter, Facebook, dros e-byst a thrwy negeseuon personol.
鈥淒yma鈥檙 profiad gorau a鈥檙 profiad gwaetha i mi gael erioed dwi鈥檔 meddwl,鈥 meddai Osian Owen gyda dwy awr i fynd ar y cloc, 鈥渕ae rhywun yn teimlo cymaint o wahanol emosiynau dros 24 awr 鈥 o flinder trwm i fod yn wirion bost.鈥
Dywedodd Morgan: 鈥淢ae鈥檙 Her yn pwysleisio yn anad dim natur gymdeithasol barddoniaeth, ac yn enwedig barddoniaeth Gymraeg. Braint ac anrhydedd oedd gallu llunio cerddi i鈥檙 testunau a anfonwyd atom, ac roedd y cyfuniad o bwysau amser ac amrywiaeth testunau wedi arwain at gerddi diddorol iawn!鈥
Dyma鈥檙 chweched tro y mae Llenyddiaeth Cymru wedi cynnal Her100Cerdd fel rhan o ddathliadau Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth. Erbyn hyn mae鈥檙 Her wedi sefydlu鈥檌 hun fel un o brif ddigwyddiadau llenyddol Cymru gyda channoedd yn cymryd rhan drwy anfon eu ceisiadau am gerddi a geiriau o anogaeth at y beirdd, a miloedd rhagor yn dilyn dros y we. Y canlyniad yw cofnod barddonol unigryw o hanes y diwrnod penodol hwnnw yng Nghymru, ac ar draws pedwar ban byd.
Cwblhawyd yr her ar 11.48 am yn union gyda cherdd addas iawn o鈥檙 enw 鈥楾erfyn.鈥
Pan holwyd Caryl Bryn am sut yr oedd hi鈥檔 teimlo o gwblhau鈥檙 dasg, atebodd: 鈥淒wi鈥檔 barod am fy ngwely, a dwi ddim isio barddoni am sbel go hir ar 么l heddiw.鈥
Y BEIRDD:
Mae Manon Awst yn fyfyrwraig PhD rhan-amser yn yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau yn archwilio arwyddoc芒d gwaith celf safle-benodol yng Nghymru.
Graddiodd Caryl Bryn yn 2017 o Brifysgol 黑料不打烊 ac mae nawr yn astudio MA Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg. Mae鈥檔 cyhoeddi cyfrol o gerddi (Cyhoeddiadau鈥檙 Stamp) ddechrau鈥檙 flwyddyn ac yn edrych ymlaen at ddechrau cystadlu 芒鈥檌 th卯m Talwrn.
Mae Morgan Owen yn astudio ar gyfer PhD yn Ysgol y Gymraeg ar gofodoldeb yr 么l-fodernaidd yn llenyddiaeth y Gymraeg. Bu鈥檔 rhan o gynllun Awduron wrth eu Gwaith yng Ng诺yl y Gelli eleni, ac ef oedd bardd yr Arddangosfa Bensaern茂aeth yn y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
Graddiodd Osian Owen 芒 gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg fis Mehefin, ac mae newydd ddechrau astudio ar gyfer gradd Meistr mewn ysgrifennu creadigol ym Mangor. Cipiodd y dwbl, y Gadair a鈥檙 Goron, yn Eisteddfod Ryng-golegol 2017, cyn cipio鈥檙 Gadair yn Eisteddfod yr Urdd ym Mrycheiniog 2018. Mae鈥檔 rhan o griw o fyfyrwyr sydd wedi sefydlu cymdeithas l锚n newydd yn y Brifysgol 鈥 Cymdeithas John Gwilym Jones.
Y CERDDI:
Gallwch weld yr holl gerddi yma:
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2018