Pencampwriaethau Codi Pwysau H欧n Cymru yn dod i Fangor
O'r chwith: Catrin Jones, Seth Casidsid a Hannah PowellCynhelir Pencampwriaethau Codi Pwysau H欧n Cymru yng Nghanolfan Brailsford, Canolfan Chwaraeon Prifysgol 黑料不打烊 ar 12 Mawrth, 2016.
Ystyrir y bencampwriaeth hon yn un o'r digwyddiadau mwyaf yng nghalendr Codi Pwysau Cymru. Bydd tua 50 o godwyr o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan, gan gynnwys myfyrwraig o Brifysgol 黑料不打烊, Hannah Powell.
Mae Hannah, sydd bellach yn byw yng Nghaergybi ac yn hyfforddi yng Nghanolfan Ffitrwydd a Chodi Pwysau Caergybi ac Ynys M么n, wedi dal sawl record yn ei chategori pwysau ac yn ddiweddar enillodd le ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop a gynhelir yn Norwy ym mis Ebrill. Hwn fydd y cyfle olaf iddi ennill pwyntiau a chael ei dewis ar gyfer T卯m Prydain yng Ngemau Olympaidd - Rio 2016.
Bydd Catrin Jones, 16 oed o Fangor, hefyd yn cystadlu. Enillodd Catrin Fwrsariaeth Leol ar gyfer Athletwyr Elit gan y Brifysgol yn 2015. Ym mis Medi 2015, bu Catrin yn cynrychioli Cymru yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Samoa lle cafodd ei dewis i gario baner Cymru yn y seremoni agoriadol ac enillodd y fedal aur gyntaf i Gymru yn y gemau.
Cystadleuydd arall yw Seth Casidsid, sy鈥檔 un o gyn-fyfyrwyr yr Ysgol Seicoleg a chyn enillydd ysgoloriaeth athletau cymunedol Prifysgol 黑料不打烊. Ar hyn o bryd mae Seth yn Bencampwr Agored Cymru 2015 a Phencampwr H欧n Cymru 2015 ac enillodd fedal arian i Brydain yn 2014.
Meddai Ray Wiliams, Hyfforddwr Perfformiad Gogledd Cymru, Codi Pwysau Cymru: ''Rydym yn falch iawn ein bod yn cynnal Pencampwriaethau Cymru 2016 ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Mae gan y Brifysgol gyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer chwaraeon elit gyda staff proffesiynol ac offer o'r radd flaenaf. Cynhelir y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro yn 2016 a dymunwn bob lwc i'n hathletwyr yn eu hymgais am ragoriaeth.''
Dywedodd Simon Roach, Cyfarwyddwr Perfformiad Codi Pwysau Cymru: "Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi cynnal digwyddiadau codi pwysau rhyngwladol o'r blaen ac rydym yn gyffrous bod y Brifysgol yn cynnal ein pencampwriaethau cenedlaethol eleni. Mae Prifysgol 黑料不打烊 yn un o'n Canolfannau Perfformiad Cenedlaethol ac mae eu cyfleusterau o'r radd flaenaf yn cynnig darpariaeth ar gyfer ein hathletwyr mwyaf talentog ac elitaidd yng Nghymru. Mae'r cyfleuster hyfforddi perfformiad uchel, darpariaeth ragorol ar gyfer cystadlaethau a phecyn cefnogaeth i athletwyr yn golygu y gall fyfyrwyr ym Mhrifysgol 黑料不打烊 gael y cyfle i wella ym maes codi pwysau."
Dywedodd Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon Prifysgol 黑料不打烊: "Rydym yn falch iawn o gynnal Pencampwriaethau Codi Pwysau H欧n Cymru yma ym Mhrifysgol 黑料不打烊, sef ein hail ddigwyddiad codi pwysau mawr yn y 12 mis diwethaf. Rydym yn gweithio'n agosach gyda Chodi Pwysau Cymru ac rydym ar hyn o bryd yn datblygu llwybr addysg i athletwr yma ym Mangor, sy鈥檔 galluogi athletwyr i hyfforddi鈥檔 llawn amser wrth gwblhau eu hastudiaethau gradd."
Mae croeso i wylwyr, pris mynediad yw 拢 5 i oedolion a 拢 2.50 i fyfyrwyr, plant a phensiynwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2016